1 Hysbyswyd Joab fod y brenin yn wylo ac yn galaru am Absalom.
2 Trodd buddugoliaeth y dydd yn alar i'r holl fyddin wedi iddynt glywed y diwrnod hwnnw fod y brenin yn gofidio am ei fab.
3 Sleifiodd y fyddin i mewn i'r ddinas y diwrnod hwnnw, fel y bydd byddin sydd wedi ei chywilyddio ar �l ffoi mewn brwydr.
4 Yr oedd y brenin yn cuddio'i wyneb ac yn gweiddi'n uchel, "Fy mab Absalom, Absalom fy mab, fy mab!"
5 Yna aeth Joab i'r ystafell at y brenin a dweud, "Yr wyt ti heddiw yn gwaradwyddo dy ddilynwyr i gyd, sef y rhai sydd wedi achub dy fywyd di heddiw, a bywydau dy feibion a'th ferched, a bywydau dy wragedd a'th ordderchwragedd.
6 Trwy ddangos cariad tuag at dy gaseion a chas at dy garedigion, yr wyt ti'n cyhoeddi heddiw nad yw dy swyddogion na'th filwyr yn ddim gennyt. Yn wir fe welaf yn awr y byddit wrth dy fodd heddiw pe byddai Absalom wedi byw a ninnau i gyd wedi marw.
7 Felly cod, dos allan a dywed air o galondid wrth dy ddilynwyr, neu, onid ei di allan atynt, tyngaf i'r ARGLWYDD, erbyn heno ni fydd gennyt yr un dyn ar �l; a byddi mewn gwaeth trybini na dim sydd wedi digwydd iti o'th febyd hyd yn awr."
8 Ar hynny cododd y brenin ac eistedd yn y porth; anfonwyd neges at yr holl fyddin fod y brenin yn eistedd yn y porth, a daeth y fyddin gyfan ynghyd gerbron y brenin. Yr oedd yr Israeliaid i gyd wedi ffoi i'w cartrefi.
9 Yna dechreuodd pawb trwy holl lwythau Israel ddadlau a dweud, "Achubodd y brenin ni o afael ein gelynion, ac yn arbennig fe'n gwaredodd ni rhag y Philistiaid. Yn awr y mae wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom.
10 Ond y mae Absalom, a eneiniwyd gennym yn frenin, wedi marw yn y rhyfel; pam felly yr ydych yn oedi dod �'r brenin adref?"
11 Daeth dadleuon yr Israeliaid i gyd i glustiau'r brenin yn ei du375?, ac anfonodd at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid, iddynt ddweud wrth henuriaid Jwda, "Pam yr ydych chwi'n oedi dod �'r brenin adref?
12 Chwi yw fy nhylwyth, fy asgwrn i a'm cnawd; pam yr ydych yn oedi dod �'r brenin adref?
13 Dywedwch wrth Amasa, 'Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt tithau? Fel hyn y gwnelo Duw imi, a rhagor os nad ti o hyn ymlaen fydd capten y llu drosof yn lle Joab.'"
14 Enillodd galon holl wu375?r Jwda'n unfryd, ac anfonasant neges at y brenin, "Tyrd yn �l, ti a'th holl ddilynwyr."
15 Daeth y brenin yn �l, a phan gyrhaeddodd yr Iorddonen, yr oedd y Jwdeaid wedi cyrraedd Gilgal ar eu ffordd i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr Iorddonen.
16 Brysiodd Simei, mab Gera y Benjaminiad o Bahurim, i fynd i lawr gyda gwu375?r Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd.
17 Daeth mil o ddynion o Benjamin gydag ef. A rhuthrodd Siba gwas teulu Saul, gyda'i bymtheg mab ac ugain gwas, i lawr at yr Iorddonen o flaen y brenin,
18 a chroesi'r rhyd i gario teulu'r brenin drosodd, er mwyn ennill ffafr yn ei olwg. Wedi i'r brenin groesi, syrthiodd Simei fab Gera o'i flaen
19 a dweud wrtho, "O f'arglwydd, paid �'m hystyried yn euog, a phaid � chofio ymddygiad gwarthus dy was y diwrnod y gadawodd f'arglwydd frenin Jerwsalem, na'i gadw mewn cof.
20 Oherwydd y mae dy was yn sylweddoli iddo bechu, ac am hynny dyma fi wedi dod yma heddiw, yn gyntaf o holl du375? Joseff i ddod i lawr i gyfarfod f'arglwydd frenin."
21 Ymateb Abisai fab Serfia oedd, "Oni ddylid rhoi Simei i farwolaeth am felltithio eneiniog yr ARGLWYDD?"
22 Ond dywedodd Dafydd, "Beth sydd a wneloch chwi � mi, O feibion Serfia, eich bod yn troi'n wrthwynebwyr imi heddiw? Ni chaiff neb yn Israel ei roi i farwolaeth heddiw, oherwydd oni wn i heddiw mai myfi sy'n frenin ar Israel?"
23 Dywedodd y brenin wrth Simei, "Ni fyddi farw." A thyngodd y brenin hynny wrtho.
24 Hefyd fe ddaeth Meffiboseth, u373?yr Saul, i lawr i gyfarfod y brenin. Nid oedd wedi trin ei draed na'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod yr ymadawodd y brenin hyd y dydd y dychwelodd yn ddiogel.
25 Pan gyrhaeddodd o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, gofynnodd y brenin iddo, "Pam nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?"
26 Atebodd yntau, "O f'arglwydd frenin, fy ngwas a'm twyllodd i; yr oeddwn i wedi bwriadu cyfrwyo asyn a marchogaeth arno yng nghwmni'r brenin, am fy mod yn gloff.
27 Y mae fy ngwas wedi f'enllibio i wrth f'arglwydd frenin, ond y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw; gwna fel y gweli'n dda.
28 I'm harglwydd frenin nid oedd y cyfan o dylwyth fy nhad ond meirwon, ac eto gosodaist ti dy was ymhlith y rhai oedd yn cael bwyta wrth dy fwrdd; pa hawl bellach sydd gennyf i apelio eto at y brenin?"
29 Dywedodd y brenin wrtho, "Pam y dywedi ragor? Penderfynais dy fod ti a Siba i rannu'r ystad."
30 Dywedodd Meffiboseth wrth y brenin, "Cymered ef y cwbl, gan fod f'arglwydd frenin wedi cyrraedd adref yn ddiogel."
31 Daeth Barsilai y Gileadiad i lawr o Rogelim a mynd cyn belled �'r Iorddonen i hebrwng y brenin.
32 Yr oedd Barsilai yn hen iawn, yn bedwar ugain oed, ac ef oedd wedi cynnal y brenin tra oedd yn aros ym Mahanaim, oherwydd yr oedd yn u373?r cefnog iawn.
33 Dywedodd y brenin wrth Barsilai, "Tyrd drosodd gyda mi, a chynhaliaf di tra byddi gyda mi yn Jerwsalem."
34 Ond meddai Barsilai wrth y brenin, "Pa faint rhagor sydd gennyf i fyw, fel y down i fyny i Jerwsalem gyda'r brenin?
35 Yr wyf yn bedwar ugain oed erbyn hyn; ni allaf ddweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg; nid wyf yn medru blasu'r hyn yr wyf yn ei fwyta na'i yfed, na chlywed erbyn hyn leisiau cantorion a chantoresau. Pam y byddwn yn faich pellach ar f'arglwydd frenin?
36 Yn fuan iawn bydd dy was wedi hebrwng y brenin at yr Iorddonen; pam y dylai'r brenin roi'r fath d�l imi?
37 Gad i'th was ddychwelyd, fel y caf farw yn fy ninas fy hun, gerllaw bedd fy nhad a'm mam. Ond dyma dy was Cimham, gad iddo ef groesi gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo ef fel y gweli'n dda."
38 Dywedodd y brenin, "Fe gaiff Cimham fynd drosodd gyda mi, a gwnaf iddo fel y gweli di'n dda; a gwnaf i tithau beth bynnag a ddeisyfi gennyf."
39 Croesodd yr holl bobl dros yr Iorddonen, tra oedd y brenin yn aros; yna cusanodd y brenin Barsilai, a'i fendithio, ac aeth yntau adref.
40 Pan groesodd y brenin i Gilgal, aeth Cimham drosodd gydag ef; yr oedd holl filwyr Jwda a hanner milwyr Israel yn ei hebrwng drosodd.
41 Yna daeth yr holl Israeliaid a dweud wrth y brenin, "Pam y mae'n brodyr, pobl Jwda, wedi dwyn y brenin, a dod ag ef a'i deulu dros yr Iorddonen, a holl filwyr Dafydd gydag ef?"
42 Dywedodd holl wu375?r Jwda wrth yr Israeliaid, "Y mae'r brenin yn perthyn yn nes i ni. Pam yr ydych mor ddig am hyn? A ydym ni wedi bwyta o gwbl ar ei draul, neu wedi derbyn unrhyw fantais ganddo?"
43 Ateb gwu375?r Israel i wu375?r Jwda ar hyn oedd: "Y mae gennym ni ddengwaith mwy o hawl ar y brenin na chwi, ac yr ydym ni yn hu375?n na chwi hefyd. Pam yr ydych yn ein bychanu ni? Onid ni oedd y cyntaf i s�n am ddod �'n brenin yn �l?" Ond dadleuodd gwu375?r Jwda yn ffyrnicach na gwu375?r Israel.