1 Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn.
2 Dywedodd, "Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chwyd ei lef o Jerwsalem; galara porfeydd y bugeiliaid, a gwywa pen Carmel."
3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Damascus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn �l; am iddynt ddyrnu Gilead � llusg-ddyrnwyr haearn,
4 anfonaf d�n ar du375? Hasael, ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.
5 Drylliaf farrau pyrth Damascus, a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen, a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden; a chaethgludir pobl Syria i Cir," medd yr ARGLWYDD.
6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Gasa, ac am bedwar, ni throf y gosb yn �l; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i'w caethiwo yn Edom,
7 anfonaf d�n ar fur Gasa, ac fe ddifa ei cheyrydd.
8 Torraf ymaith y trigolion o Asdod, a pherchen y deyrnwialen o Ascalon; trof fy llaw yn erbyn Ecron, a difodir gweddill y Philistiaid," medd yr Arglwydd DDUW.
9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Tyrus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn �l; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom, ac anghofio cyfamod brawdol,
10 anfonaf d�n ar fur Tyrus, ac fe ddifa ei cheyrydd."
11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Edom, ac am bedwar, ni throf y gosb yn �l; am iddo ymlid ei frawd � chleddyf, a mygu ei drugaredd, a bod ei lid yn rhwygo'n barhaus a'i ddigofaint yn dal am byth,
12 anfonaf d�n ar Teman, ac fe ddifa geyrydd Bosra."
13 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau'r Ammoniaid, ac am bedwar, ni throf y gosb yn �l; am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead, er mwyn ehangu eu terfynau,
14 cyneuaf d�n ar fur Rabba, ac fe ddifa ei cheyrydd � bloedd ar ddydd brwydr, a chorwynt ar ddydd tymestl.
15 A chaethgludir eu brenin, ef a'i swyddogion i'w ganlyn," medd yr ARGLWYDD.