1 Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, du375? Israel:
2 "Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio, ac ni chyfyd eto; gadawyd hi ar lawr, heb neb i'w chodi."
3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth du375? Israel: "Y ddinas a anfonodd fil a gaiff gant yn �l; a'r un a anfonodd gant a gaiff ddeg yn �l."
4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth du375? Israel: "Ceisiwch fi, a byddwch fyw;
5 peidiwch � cheisio Bethel, nac ymweld � Gilgal, na theithio i Beerseba; oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal, ac ni bydd Bethel yn ddim."
6 Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw � rhag iddo ruthro fel t�n drwy du375? Joseff a'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel �
7 chwi sy'n troi barn yn wermod, ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.
8 Ef a wnaeth Pleiades ac Orion; ef sy'n troi tywyllwch yn fore, ac yn tywyllu'r dydd yn nos. Ef sy'n galw ar ddyfroedd y m�r, ac yn eu tywallt ar wyneb y tir; yr ARGLWYDD yw ei enw.
9 Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf, a daw distryw ar y gaer.
10 Y maent yn cas�u'r un a wna farn yn y porth, ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.
11 Felly, am ichwi sathru'r tlawd, a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith � er ichwi godi tai o gerrig nadd, ni chewch fyw ynddynt; er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd, ni chewch yfed eu gwin.
12 Canys gwn mor niferus yw'ch troseddau ac mor fawr yw'ch pechodau � chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr, ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.
13 Felly tawed y doeth ar y fath amser, canys amser drwg ydyw.
14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni, fel y byddwch fyw ac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi, fel yr ydych yn honni ei fod.
15 Casewch ddrygioni, carwch ddaioni, gofalwch am farn yn y porth; efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, wrth weddill Joseff.
16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd: "Ym mhob sgw�r fe fydd wylo, ym mhob stryd fe ddywedant, 'Och! Och!' Galwant ar y llafurwr i alaru ac ar y galarwyr i gwynfan.
17 Bydd wylofain ym mhob gwinllan, oherwydd mi af trwy dy ganol," medd yr ARGLWYDD.
18 Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD! Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi? Tywyllwch fydd, nid goleuni;
19 fel pe bai dyn yn dianc rhag llew, ac arth yn ei gyfarfod; neu'n cyrraedd y tu375? ac yn rhoi ei law ar y pared, a neidr yn ei frathu.
20 Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni; caddug, heb lygedyn golau ynddo?
21 "Yr wyf yn cas�u, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau; nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.
22 Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau, ni allaf eu derbyn; ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.
23 Ewch � su373?n eich caneuon oddi wrthyf; ni wrandawaf ar gainc eich telynau.
24 Ond llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref.
25 "A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, du375? Israel?
26 Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi � eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw �
27 oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus," medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.