Kabyle: New Testament

Welsh

Daniel

9

1 Daeth Dareius fab Ahasferus o linach y Mediaid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid.
2 Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, yr oeddwn i, Daniel, yn chwilio'r llyfrau ynglu375?n �'r hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia'r proffwyd am nifer y blynyddoedd hyd derfyn dinistr Jerwsalem, sef deng mlynedd a thrigain.
3 Yna trois at yr Arglwydd Dduw mewn gweddi daer ac ymbil, gydag ympryd a sachliain a lludw.
4 Gwedd�ais ar yr ARGLWYDD fy Nuw a chyffesu a dweud, "O Arglwydd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,
5 yr ydym wedi pechu a gwneud camwedd a drwg, ac wedi gwrthryfela ac anwybyddu d'orchmynion a'th ddeddfau.
6 Ni wrandawsom ar dy weision y proffwydi, a fu'n llefaru yn dy enw wrth ein brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, ac wrth holl bobl y wlad.
7 I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder; ond heddiw fel erioed, cywilydd sydd i ni, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem a holl Israel, yn agos ac ymhell, ym mhob gwlad lle'r alltudiwyd hwy am iddynt dy fradychu.
8 O ARGLWYDD, cywilydd sydd i ni, i'n brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, am inni bechu yn dy erbyn.
9 Ond y mae trugaredd a maddeuant gan yr Arglwydd ein Duw, er inni wrthryfela yn ei erbyn
10 a gwrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw i ddilyn ei gyfreithiau, a roddodd inni trwy ei weision y proffwydi.
11 Y mae holl Israel wedi torri dy gyfraith a gwrthod gwrando ar dy lais; ac am inni bechu yn ei erbyn tywalltwyd arnom y felltith a'r llw sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gwas Duw.
12 Cyflawnodd yr hyn a ddywedodd amdanom ni ac am ein barnwyr trwy ddwyn dinistr mawr arnom, oherwydd ni ddigwyddodd yn unman ddim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem.
13 Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di.
14 Cadwodd yr ARGLWYDD olwg ar y dinistr hwn nes dod ag ef arnom, am fod yr ARGLWYDD ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a ninnau heb wrando ar ei lais.
15 "Ac yn awr, O Arglwydd ein Duw, sydd wedi achub dy bobl o wlad yr Aifft � llaw gref a gwneud enw i ti dy hun hyd heddiw, yr ydym ni wedi pechu a gwneud drygioni.
16 O Arglwydd, yn unol �'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas.
17 Ac yn awr, ein Duw, gwrando ar weddi ac ymbil dy was, ac er dy fwyn dy hun p�r i'th wyneb ddisgleirio ar dy gysegr anghyfannedd.
18 Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di.
19 Gwrando, O Arglwydd! Trugarha, O Arglwydd! Gwrando, O Arglwydd, a gweithreda! Er dy fwyn dy hun, fy Nuw, paid ag oedi, oherwydd dy enw di sydd ar dy ddinas ac ar dy bobl."
20 A thra oeddwn yn llefaru ac yn gwedd�o, yn cyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn ymbil o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw,
21 ehedodd y gu373?r Gabriel, a welais eisoes yn y weledigaeth, a chyffyrddodd � mi ar adeg yr offrwm hwyrol.
22 Esboniodd i mi a dweud, "Daniel, rwyf wedi dod yn awr i'th hyfforddi.
23 Pan ddechreuaist ymbil, cyhoeddwyd gair, a deuthum innau i'w fynegi, oherwydd cefaist ffafr. Ystyria'r gair a deall y weledigaeth.
24 "Nodwyd deg wythnos a thrigain i'th bobl ac i'th ddinas sanctaidd, i roi diwedd ar wrthryfel a therfyn ar bechodau, i wneud iawn am ddrygioni ac i adfer cyfiawnder tragwyddol; i roi s�l ar weledigaeth a phroffwydoliaeth, ac i eneinio'r lle sancteiddiolaf.
25 Deall hyn ac ystyria: bydd saith wythnos o'r amser y daeth gorchymyn i ailadeiladu Jerwsalem hyd ddyfodiad tywysog eneiniog; yna am ddwy wythnos a thrigain adnewyddir heol a ffos, ond bydd yn amser adfyd.
26 Ac ar �l y ddwy wythnos a thrigain fe leddir yr un eneiniog heb neb o'i du, a difethir y ddinas a'r cysegr gan filwyr tywysog sydd i ddod. Bydd yn gorffen mewn llifeiriant, gyda rhyfel yn peri anghyfanedd-dra hyd y diwedd.
27 Fe wna gyfamod cadarn � llawer am un wythnos, ac am hanner yr wythnos rhydd derfyn ar aberth ac offrwm. Ac yn sg�l y ffieiddbeth daw anrheithiwr, a erys hyd y diwedd, pan dywelltir ar yr anrheithiwr yr hyn a ddywedwyd."