Kabyle: New Testament

Welsh

Hosea

1

1 Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.
2 Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, "Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD."
3 Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.
4 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar du375? Jehu am waed Jesreel,
5 a rhof derfyn ar frenhiniaeth tu375? Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel."
6 Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, "Enwa hi Lo-ruhama, oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach � thu375? Israel, i roi maddeuant iddynt.
7 Ond gwnaf drugaredd � thu375? Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion."
8 Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.
9 A dywedodd yr ARGLWYDD, "Enwa ef Lo-ammi, oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau."
10 Bydd nifer plant Israel fel tywod y m�r, na ellir ei fesur na'i rifo. Yn y lle y dywedwyd wrthynt, "Nid-fy-mhobl ydych", fe ddywedir wrthynt, "Meibion y Duw byw".
11 Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel, a gosodant iddynt un pen; d�nt i fyny o'r wlad, oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.