1 "Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, du375? Israel; daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn, am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;
2 gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.
3 "Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf; ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.
4 Ni chaniat� eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw, am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD."
5 Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn; syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd, syrth Jwda hefyd gyda hwy.
6 �nt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD, ond heb ei gael � ciliodd oddi wrthynt.
7 Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon. Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.
8 "Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama; rhowch floedd yn Beth-afen: 'A'r dy �l di, Benjamin!'
9 Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi; mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
10 Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn; bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
11 Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn, oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.
12 Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim, ac fel cancr i du375? Jwda.
13 "Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau, aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr; ond ni all ef eich gwella na'ch iach�u o'ch doluriau.
14 Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i du375? Jwda; myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.
15 "Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai, a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd."