1 Paid � llawenychu, Israel. Paid � gorfoleddu fel y bobloedd; canys puteiniaist a gadael dy Dduw, ceraist am d�l ar bob llawr dyrnu.
2 Ni fydd llawr dyrnu a gwinwryf yn eu porthi hwy; bydd y gwin newydd yn eu siomi.
3 Nid arhosant yn nhir yr ARGLWYDD; ond dychwel Effraim i'r Aifft, a bwyt�nt beth aflan yn Asyria.
4 Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD, ac ni fodlonir ef �'u haberthau; byddant iddynt fel bara galarwyr, sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta. Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara, ac ni ddaw i du375?'r ARGLWYDD.
5 Beth a wnewch ar ddydd yr u373?yl sefydlog, ar ddydd uchel u373?yl yr ARGLWYDD?
6 Canys wele, ffoant rhag dinistr; bydd yr Aifft yn eu casglu, a Memffis yn eu claddu; bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian, a drain fydd yn eu pebyll.
7 Daeth dyddiau cosbi, dyddiau i dalu'r pwyth, a darostyngir Israel. "Ffu373?l yw'r proffwyd, gwallgof yw gu373?r yr ysbryd." O achos dy ddrygioni mawr bydd dy elyniaeth yn fawr.
8 Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw, ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdd a gelyniaeth yn nhu375? ei Duw.
9 Syrthiasant yn ddwfn i lygredd, fel yn nyddiau Gibea. Fe gofia Duw eu drygioni a chosbi eu pechodau.
10 "Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel; fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau. Ond aethant i Baal-peor, a'u rhoi eu hunain i warth eilun; ac aethant mor ffiaidd � gwrthrych eu serch.
11 Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn; ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.
12 Pe magent blant, fe'u gwnawn yn llwyr amddifad. Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!
13 Yn �l a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth, ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa."
14 Dyro iddynt, ARGLWYDD � beth a roddi? Dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.
15 "Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni; yno'n wir y rhois fy nghas arnynt. Oherwydd eu gweithredoedd drygionus, gyrraf hwy allan o'm tu375?. Ni charaf hwy ychwaneg; gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.
16 "Trawyd Effraim. Sychodd eu gwraidd; ni ddygant ffrwyth. Er iddynt eni plant, lladdaf anwyliaid eu crothau."
17 Bydd fy Nuw yn eu gwrthod, am iddynt beidio � gwrando arno; byddant yn grwydriaid ymysg y cenhedloedd.