1EA ya ahora, oh ricos, llorad aullando por vuestras miserias que os vendrán.
1 Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch.
2Vuestras riquezas están podridas: vuestras ropas están comidas de polilla.
2 Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad.
3Vuestro oro y plata están corrompidos de orín; y su orín os será testimonio, y comerá del todo vuestras carnes como fuego. Os habéis allegado tesoro para en los postreros días.
3 Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel t�n. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf.
4He aquí, el jornal de los obreros que han segado vuestras tierras, el cual por engaño no les ha sido pagado de vosotros, clama; y los clamores de los que habían segado, han entrado en los oídos del Señor de los ejércitos.
4 Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd.
5Habéis vivido en deleites sobre la tierra, y sido disolutos; habéis cebado vuestros corazones como en el día de sacrificios.
5 Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa.
6Habéis condenado y muerto al justo; y él no os resiste.
6 Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll.
7Pues, hermanos, tened paciencia hasta la venida del Señor. Mirad cómo el labrador espera el precioso fruto de la tierra, aguardando con paciencia, hasta que reciba la lluvia temprana y tardía.
7 Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar.
8Tened también vosotros paciencia; confirmad vuestros corazones: porque la venida del Señor se acerca.
8 Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos.
9Hermanos, no os quejéis unos contra otros, porque no seáis condenados; he aquí, el juez está delante de la puerta.
9 Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.
10Hermanos míos, tomad por ejemplo de aflicción y de paciencia, á los profetas que hablaron en nombre del Señor.
10 Ystyriwch, gyfeillion, fel esiampl o rai'n dioddef yn amyneddgar, y proffwydi a lefarodd yn enw'r Arglwydd.
11He aquí, tenemos por bienaventurados á los que sufren. Habéis oído la paciencia de Job, y habéis visto el fin del Señor, que el Señor es muy misericordioso y piadoso.
11 Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog.
12Mas sobre todo, hermanos míos, no juréis, ni por el cielo, ni por la tierra, ni por otro cualquier juramento; sino vuestro sí sea sí, y vuestro no sea no; porque no caigáis en condenación.
12 Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch � thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich "ie" yn "ie" yn unig, a'ch "nage" yn "nage" yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn.
13¿Está alguno entre vosotros afligido? haga oración. ¿Está alguno alegre? cante salmos.
13 A oes rhywun yn eich plith mewn adfyd? Dylai wedd�o. A oes rhywun yn llawen? Dylai ganu mawl.
14¿Está alguno enfermo entre vosotros? llame á los ancianos de la iglesia, y oren por él, ungiéndole con aceite en el nombre del Señor.
14 A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i wedd�o trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd.
15Y la oración de fe salvará al enfermo, y el Señor lo levantará; y si estuviere en pecados, le serán perdonados.
15 Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iach�u y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant.
16Confesaos vuestras faltas unos á otros, y rogad los unos por los otros, para que seáis sanos; la oración del justo, obrando eficazmente, puede mucho.
16 Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gwedd�wch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iach�d. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn.
17Elías era hombre sujeto á semejantes pasiones que nosotros, y rogó con oración que no lloviese, y no llovió sobre la tierra en tres años y seis meses.
17 Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian � ninnau, ac fe wedd�odd ef yn daer am iddi beidio � glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis.
18Y otra vez oró, y el cielo dió lluvia, y la tierra produjo su fruto.
18 Yna gwedd�odd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth.
19Hermanos, si alguno de entre vosotros ha errado de la verdad, y alguno le convirtiere,
19 Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n �l,
20Sepa que el que hubiere hecho convertir al pecador del error de su camino, salvará un alma de muerte, y cubrirá multitud de pecados.
20 boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.