1 Tra oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor i offrymu, daeth gu373?r Duw o Jwda i Fethel yn �l gair yr ARGLWYDD.
2 A chyhoeddodd yn erbyn yr allor drwy air yr ARGLWYDD: "Allor, allor, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele, fe enir mab i linach Dafydd o'r enw Joseia; bydd ef yn aberthu arnat offeiriaid yr uchelfeydd sy'n offrymu arnat, a llosgir arnat esgyrn dynol.'"
3 A rhoddodd argoel y dydd hwnnw, a dweud, "Dyma'r argoel a addawodd yr ARGLWYDD: bydd yr allor yn ddrylliau, a chwelir y lludw sydd arni."
4 Pan glywodd y Brenin Jeroboam y gair a gyhoeddodd gu373?r Duw yn erbyn yr allor ym Methel, estynnodd ei law dros yr allor a dweud, "Cydiwch ynddo!" Ond gwywodd y llaw a estynnodd ato, ac ni fedrai ei thynnu'n �l.
5 Yna drylliwyd yr allor a chwalwyd y lludw o'r allor, yn unol �'r argoel a roddodd gu373?r Duw drwy air yr ARGLWYDD.
6 Yna dywedodd y brenin wrth u373?r Duw, "Ymbil �'r ARGLWYDD dy Dduw a gwedd�a ar fy rhan fel y caiff fy llaw ei hadfer." Ymbiliodd gu373?r Duw ar yr ARGLWYDD, ac adferwyd llaw'r brenin iddo fel yr oedd cynt.
7 A dywedodd y brenin wrth u373?r Duw, "Tyrd adref gyda mi am damaid, imi roi rhodd iti."
8 Ond dywedodd y proffwyd wrth y brenin, "Petait yn rhoi imi hanner dy du375?, ni ddown gyda thi; nid wyf am fwyta tamaid nac yfed llymaid yn y lle hwn.
9 Fel hyn y gorchmynnwyd imi drwy air yr ARGLWYDD, i beidio � bwyta nac yfed dim, na dychwelyd y ffordd y deuthum."
10 Ac aeth ffordd arall, heb ddychwelyd ar y ffordd y daeth i Fethel.
11 Yr oedd proffwyd oedrannus yn byw ym Methel, a daeth ei feibion a dweud wrtho am y cwbl a wnaeth gu373?r Duw y dydd hwnnw ym Methel, ac adrodd wrth eu tad yr hyn a ddywedodd wrth y brenin.
12 Holodd eu tad hwy, "Pa ffordd yr aeth?" A dangosodd ei feibion y ffordd yr aeth gu373?r Duw oedd wedi dod o Jwda.
13 Dywedodd yntau wrth ei feibion, "Cyfrwywch asyn imi." Ac wedi iddynt gyfrwyo'r asyn, marchogodd arno
14 a mynd ar �l gu373?r Duw, a'i gael yn eistedd tan dderwen. Gofynnodd iddo, "Ai ti yw'r gu373?r Duw a ddaeth o Jwda?" Ac atebodd yntau, "Ie."
15 Yna dywedodd y proffwyd oedrannus, "Tyrd adref gyda mi am bryd o fwyd."
16 Atebodd y llall, "Ni fedraf ddychwelyd gyda thi, na bwyta nac yfed dim gyda thi yn y lle hwn.
17 Dyma'r neges a gefais drwy air yr ARGLWYDD: 'Paid � bwyta bara nac yfed dim yno, na dychwelyd y ffordd yr aethost.'"
18 Ond dywedodd y proffwyd oedrannus wrtho, "Yr wyf finnau'n broffwyd fel ti, ac y mae angel wedi dweud wrthyf drwy air yr ARGLWYDD, 'Dos ag ef yn �l gyda thi adref i fwyta bara ac yfed du373?r.'" Ond dweud celwydd wrtho yr oedd.
19 Aeth yntau'n �l gydag ef, a bwyta ac yfed yn ei gartref.
20 Tra oeddent yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a'i dygodd yn �l,
21 a chyhoeddodd wrth u373?r Duw a ddaeth o Jwda, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am iti wrthod yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD, a pheidio � chadw gorchymyn yr ARGLWYDD dy Dduw,
22 ond yn hytrach dychwelyd a bwyta ac yfed yn y lle y dywedodd ef wrthyt am beidio � bwyta nac yfed, am hynny ni ddaw dy gorff i fedd dy hynafiaid.'"
23 Ac wedi iddo orffen bwyta ac yfed, cyfrwywyd iddo asyn o eiddo'r proffwyd a'i dygodd yn �l.
24 Fel yr oedd yn mynd ar hyd y ffordd, daeth llew i'w gyfarfod a'i ladd; gadawyd ei gorff i orwedd ar y ffordd, gyda'r asyn a'r llew yn sefyll yn ei ymyl.
25 Digwyddodd rhywrai ddod heibio a gweld y corff ar y ffordd, gyda'r llew yn ei ymyl, ac aethant ac adrodd yr hanes yn y dref lle'r oedd y proffwyd oedrannus yn byw.
26 Pan glywodd y proffwyd a'i dygodd yn �l o'i daith, dywedodd, "Dyna u373?r Duw a wrthododd neges yr ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i'r llew, a hwnnw wedi ei larpio a'i ladd yn �l y gair a fynegodd yr ARGLWYDD."
27 A dywedodd wrth ei feibion, "Cyfrwywch asyn imi." Wedi iddynt ei gyfrwyo,
28 aeth y proffwyd, a chael y corff ar y ffordd, a'r llew a'r asyn yn sefyll yn ei ymyl. Nid oedd y llew wedi bwyta'r corff na llarpio'r asyn.
29 Cododd y proffwyd y corff a'i osod ar yr asyn, a'i gludo'n �l, a'i ddwyn i dref y proffwyd oedrannus er mwyn galaru drosto a'i gladdu.
30 Ac wedi gosod y corff yn ei fedd ei hun, galarodd drosto a dweud, "O fy mrawd!"
31 Ar �l ei gladdu, dywedodd wrth ei feibion, "Pan fyddaf farw, claddwch fi yn y bedd lle mae gu373?r Duw wedi ei gladdu; gosodwch fy esgyrn wrth ei esgyrn ef.
32 Yn sicr fe ddigwydd yr hyn a gyhoeddodd drwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor ym Methel ac yn erbyn holl adeiladau'r uchelfeydd sydd yn nhrefi Samaria."
33 Ni throdd Jeroboam oddi wrth ei ffordd ddrygionus wedi'r digwyddiad hwn. Parhaodd i wneud offeiriaid uchelfeydd o'r bobl yn ddiwah�n; byddai'n urddo pwy bynnag a ddymunai yn offeiriaid uchelfeydd.
34 Bu hyn yn dramgwydd i deulu Jeroboam ac yn achos eu difetha a'u difodi oddi ar wyneb y ddaear.