1 Yna anfonodd y brenin a chasglu ato holl henuriaid Jwda a Jerwsalem;
2 ac aeth i fyny i'r deml, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r proffwydi a phawb o'r bobl, bach a mawr. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhu375?'r ARGLWYDD.
3 Safodd y brenin wrth y golofn a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD, i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau �'i holl galon ac �'i holl enaid, ac i gyflawni holl eiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn. A safodd yr holl bobl wrth y cyfamod.
4 Yna gorchmynnodd y brenin i'r archoffeiriad Hilceia, a'r is-offeiriaid, a cheidwaid y drws symud allan o deml yr ARGLWYDD yr holl offer a wnaed ar gyfer Baal ac Asera a holl lu'r nef; a llosgwyd hwy y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a mynd �'u llwch i Fethel.
5 Diswyddodd yr offeiriaid gau a osododd brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd yn nhrefi Jwda a chyffiniau Jerwsalem, a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal a'r haul a'r lloer a'r planedau a holl lu'r nef.
6 Dygodd byst Asera allan o du375?'r ARGLWYDD i lawr i nant Cidron y tu allan i Jerwsalem, a'i llosgi yno, a'i malu'n llwch a thaenu'r llwch yn y fynwent gyffredin.
7 Bwriodd i lawr dai puteinwyr y cysegr oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD, lle'r oedd gwragedd yn gweu gwisgoedd ar gyfer delw Asera.
8 Symudodd yr holl offeiriaid o drefi Jwda, a halogodd yr uchelfeydd lle bu'r offeiriaid yn arogldarthu, o Geba hyd Beerseba. Tynnodd i lawr uchelfeydd y pyrth oedd wrth borth Josua pennaeth y ddinas, ar y chwith i borth y ddinas.
9 Eto ni dd�i offeiriaid yr uchelfeydd i fyny at allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ond bwyta bara croyw ymhlith eu brodyr.
10 Halogodd y Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab na'i ferch i Moloch.
11 A gwnaeth i ffwrdd �'r meirch a gysegrodd brenhinoedd Jwda i'r haul ym mynedfa tu375?'r ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd yn y glwysty, a llosgodd gerbyd yr haul.
12 Tynnodd i lawr yr allorau a wnaeth brenhinoedd Jwda ar do goruwchystafell Ahas, a'r allorau a wnaeth Manasse yn nau gyntedd tu375?'r ARGLWYDD; ac ar �l eu dryllio yno, taflodd eu llwch i nant Cidron.
13 Yna halogodd y brenin yr uchelfeydd oedd gyferbyn � Jerwsalem i'r de o Fynydd yr Olewydd, ac a adeiladwyd gan Solomon brenin Israel ar gyfer Astoreth, ffieiddbeth Sidon, a Chemos, ffieidd-beth Moab, a Milcom, ffieidd-dra'r Ammoniaid.
14 Drylliodd y colofnau, a thorri i lawr y prennau Asera a llenwi eu cysegrleoedd ag esgyrn dynol.
15 Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.
16 Wrth droi ymaith, sylwodd Joseia ar y fynwent oedd yno ar y mynydd, ac anfonodd a chymryd esgyrn o'r beddau a'u llosgi ar yr allor a'i halogi, a hynny'n cyflawni gair yr ARGLWYDD, a gyhoeddodd gu373?r Duw pan ragfynegodd y pethau hyn.
17 Wedyn gofynnodd, "Beth yw'r gofeb acw a welaf?" Atebodd pobl y ddinas ef, "Dyna fedd gu373?r Duw, a ddaeth o Jwda a rhagfynegi'r pethau hyn yr wyt ti wedi eu gwneud ag allor Bethel."
18 Yna dywedodd wrthynt am adael llonydd iddo ac nad oedd neb i ymyrryd �'i esgyrn. Felly arbedwyd ei esgyrn, a hefyd esgyrn y proffwyd a ddaeth o Samaria.
19 Yn nhrefi Samaria dinistriodd Joseia holl demlau'r uchelfeydd a wnaeth brenhinoedd Israel i ddigio'r ARGLWYDD. Gwnaeth iddynt yno yn hollol fel y gwnaeth ym Methel.
20 Lladdodd ar yr allorau bob un o offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, a llosgi esgyrn dynol arnynt cyn dychwelyd i Jerwsalem.
21 Rhoddodd y brenin orchymyn i'r holl bobl, "Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich Duw, fel sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr cyfamod hwn."
22 Oherwydd ni chadwyd Pasg fel hwn er dyddiau'r barnwyr a fu'n barnu Israel, na thrwy holl flynyddoedd brenhinoedd Israel a Jwda.
23 Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Joseia y cadwyd y Pasg hwn i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
24 Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.
25 Erioed o'r blaen ni chaed brenin tebyg iddo, yn troi at yr ARGLWYDD �'i holl galon, ac �'i holl enaid, ac �'i holl egni yn �l holl gyfraith Moses. Ac ni chododd neb tebyg iddo ar ei �l.
26 Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddigofaint mawr yn erbyn Jwda o achos yr holl bethau a wnaeth Manasse i'w ddigio.
27 A dywedodd yr ARGLWYDD, "Symudaf Jwda hefyd allan o'm gu373?ydd, fel y symudais Israel; a gwrthodaf Jerwsalem, y ddinas hon a ddewisais, a hefyd y tu375? hwn y dywedais y byddai f'enw yno."
28 Am weddill hanes Joseia, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
29 Yn ei ddyddiau ef daeth Pharo Necho brenin yr Aifft at afon Ewffrates, at frenin Asyria; a phan aeth Joseia allan yn ei erbyn, lladdodd Necho ef yn Megido, pan welodd ef.
30 Cludodd ei weision ef yn farw o Megido, a'i ddwyn i Jerwsalem a'i gladdu yn ei feddrod. Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.
31 Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam.
32 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.
33 Carcharodd Pharo Necho ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, rhag iddo fod yn frenin yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur.
34 Gwnaeth Eliacim fab Joseia yn frenin yn lle ei dad Joseia, a newid ei enw i Jehoiacim. Cymerodd Jehoahas i lawr i'r Aifft, lle bu farw.
35 Fe roddodd Jehoiacim yr arian a'r aur i Pharo, ond trethodd y wlad i godi'r arian yr oedd Pharo yn eu hawlio; gosodwyd trethiant ar bob un o bobl y wlad i godi'r arian a'r aur i dalu i Pharo Necho.
36 Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg. Sebuda merch Pedaia o Ruma oedd enw ei fam.
37 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.