1 Yr oedd Naaman capten byddin brenin Syria yn ddyn uchel gan ei feistr ac yn fawr ei barch, am mai trwyddo ef yr oedd yr ARGLWYDD wedi gwaredu Syria. Ond aeth y rhyfelwr praff yn u373?r gwahanglwyfus.
2 Pan oeddent ar gyrch yn nhir Israel cipiodd y Syriaid eneth ifanc a'i dwyn i weini ar wraig Naaman.
3 Dywedodd wrth ei meistres, "Gresyn na fyddai fy meistr yn gweld y proffwyd sydd yn Samaria; byddai ef yn ei wella o'i wahanglwyf."
4 Aeth Naaman a dweud wrth ei feistr, "Y mae'r eneth o wlad Israel yn dweud fel a'r fel."
5 Ac meddai brenin Syria, "Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel." Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg p�r o ddillad.
6 Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, "Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf."
7 Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, "Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae."
8 Pan glywodd Eliseus, gu373?r Duw, fod brenin Israel wedi rhwygo'i ddillad, anfonodd at y brenin a dweud, "Pam yr wyt yn rhwygo dy ddillad? Gad iddo ddod ataf fi, er mwyn iddo wybod fod proffwyd yn Israel."
9 Felly daeth Naaman, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll o flaen drws tu375? Eliseus,
10 a gyrrodd Eliseus neges allan ato: "Dos ac ymolchi saith waith yn yr Iorddonen, ac adferir dy gnawd yn holliach iti."
11 Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, "Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf.
12 Onid yw Abana a Pharpar, afonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel? Oni allwn ymolchi ynddynt hwy, a dod yn l�n?" Trodd, a mynd i ffwrdd yn ei ddig.
13 Ond daeth ei weision ato a dweud wrtho, "Petai'r proffwyd wedi dweud rhywbeth mawr wrthyt, oni fyddit wedi ei wneud? Onid rheitiach felly gan mai dim ond 'Ymolch a bydd l�n' a ddywedodd?"
14 Ar hynny fe aeth i lawr, ac ymdrochi saith waith yn yr Iorddonen yn �l gair gu373?r Duw, a daeth ei gnawd yn l�n eto fel cnawd bachgen bach.
15 Yna dychwelodd ef a'i holl fintai at u373?r Duw, a sefyll o'i flaen a dweud, "Dyma fi'n gwybod yn awr nad oes Duw mewn un wlad ond yn Israel; felly, derbyn yn awr anrheg oddi wrth dy was."
16 Atebodd yntau, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD a wasanaethaf yn fyw, ni chymeraf ddim."
17 Ac er pwyso arno i gymryd, gwrthod a wnaeth. Dywedodd Naaman, "Os na chymeri, ynteu, rhodder llwyth cwpl o fulod o bridd i mi, dy was, gan na fyddaf ar �l hyn yn offrymu poethoffrwm nac aberth i'r un duw arall ond i'r ARGLWYDD.
18 Ond yn unig � maddeued yr ARGLWYDD imi � pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn."
19 Dywedodd Eliseus wrtho, "Heddwch iti." Pan oedd wedi mynd ychydig o ffordd,
20 meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gu373?r Duw, "Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei �l i gael rhywbeth ganddo."
21 Rhedodd ar �l Naaman, a phan welodd Naaman ef yn rhedeg, disgynnodd o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, "A yw popeth yn iawn?"
22 "Ydyw, yn iawn," meddai yntau, "fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal � rhoi iddynt dalent o arian a dau b�r o ddillad."
23 Atebodd Naaman, "Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent." Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau b�r o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen.
24 Pan ddaethant at y bonc, cymerodd Gehasi hwy o'u llaw a'u rhoi i gadw, ac yna anfonodd y gweision yn �l.
25 Wedi iddynt fynd, aeth yntau i mewn i weini ar ei feistr, a dywedodd Eliseus wrtho, "Ple buost ti, Gehasi?" Atebodd, "Ni fu dy was yn unman."
26 Ond dywedodd Eliseus, "Onid oedd fy nghalon gyda thi pan ddisgynnodd y gu373?r o'i gerbyd i'th gyfarfod, a phan dderbyniaist yr arian? Pryn ddillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion;
27 ond bydd gwahanglwyf Naaman yn glynu wrthyt ti a'th deulu am byth." Aeth Gehasi allan o'i u373?ydd yn wahanglwyfus, cyn wynned �'r eira.