1 Y diwrnod hwnnw rhoddodd y Brenin Ahasferus du375? Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther; a daeth Mordecai i u373?ydd y brenin, oherwydd yr oedd Esther wedi dweud wrtho pa berthynas oedd ef iddi.
2 Yna tynnodd y brenin ei fodrwy, a gymerodd yn �l oddi ar Haman, a'i rhoi i Mordecai. Rhoddodd Esther du375? Haman yng ngofal Mordecai.
3 Unwaith eto apeliodd Esther at y brenin a syrthio wrth ei draed. Wylodd ac erfyn arno rwystro'r drygioni a gynllwynodd Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
4 Estynnodd y brenin ei deyrnwialen aur at Esther, a chododd hithau a sefyll o'i flaen a dweud,
5 "Os gw�l y brenin yn dda, ac os cefais ffafr ganddo, a bod y mater yn dderbyniol ganddo, a minnau yn ei foddhau, anfoned wu375?s i alw'n �l y llythyrau a ysgrifennodd Haman fab Hammedatha yr Agagiad gyda'r bwriad o ddifa'r Iddewon sydd ym mhob un o daleithiau'r brenin.
6 Sut y gallaf edrych ar y trybini sy'n dod ar fy mhobl? Sut y gallaf oddef gweld dinistr fy nghenedl?"
7 Yna dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther a Mordecai'r Iddew, "Yr wyf wedi rhoi tu375? Haman i Esther, a chrogwyd yntau ar grocbren am iddo ymosod ar yr Iddewon.
8 Yn awr ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglu375?n �'r Iddewon yn fy enw i, a selio'r ddogfen �'r s�l frenhinol, oherwydd ni ellir newid gwu375?s a ysgrifennwyd yn enw'r brenin ac a seliwyd �'r s�l frenhinol."
9 Yna, ar y trydydd dydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, galwyd ynghyd ysgrifenyddion y brenin. Ysgrifennwyd, yn union fel y gorchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, at bendefigion, rheolwyr a thywysogion y taleithiau o India i Ethiopia, cant dau ddeg a saith o daleithiau, pob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, ac at yr Iddewon yn eu hysgrifen a'u hiaith hwythau.
10 Ysgrifennwyd y wu375?s yn enw'r Brenin Ahasferus, a'i selio �'r s�l frenhinol. Anfonwyd llythyrau gyda negeswyr yn marchogaeth ar feirch cyflym wedi eu magu yn stablau'r brenin.
11 Ynddynt rhoddodd y brenin hawl i'r Iddewon oedd ym mhob dinas i ymgasglu a'u hamddiffyn eu hunain, ac i ddifa, lladd a dinistrio byddin unrhyw genedl neu dalaith a ymosodai arnynt, a'u plant a'u gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo.
12 Yr oeddent i wneud hyn trwy holl daleithiau'r Brenin Ahasferus ar ddiwrnod penodedig, y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.
13 Yr oedd copi o'r wu375?s i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobloedd, fel y byddai'r Iddewon yn barod y diwrnod hwnnw i ddial ar eu gelynion.
14 Felly aeth y negeswyr allan yn ddiymdroi, yn marchogaeth ar feirch cyflym y brenin; yr oeddent yn mynd ar frys ar orchymyn y brenin. Cyhoeddwyd y wu375?s hefyd yn Susan y brifddinas.
15 Yna aeth Mordecai allan o u373?ydd y brenin mewn gwisg frenhinol o las a gwyn, a chyda choron fawr o aur, a mantell o liain main a phorffor; ac yr oedd dinas Susan yn orfoleddus.
16 Daeth goleuni, llawenydd, hapusrwydd ac anrhydedd i ran yr Iddewon.
17 Ym mhob talaith a dinas lle daeth gair a gorchymyn y brenin, yr oedd yr Iddewon yn gwledda ac yn cadw gu373?yl yn llawen a hapus. Ac yr oedd llawer o bobl y wlad yn honni mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon.