Uma: New Testament

Welsh

Ezra

7

1 Ar �l hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, daeth Esra i fyny o Fabilon; hwn oedd Esra fab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
2 fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
3 fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
4 fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
5 fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.
6 Yr oedd Esra yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan ARGLWYDD Dduw Israel; ac am ei fod yn derbyn ffafr gan yr ARGLWYDD ei Dduw, cafodd y cwbl a ddymunai gan y brenin.
7 Yn y seithfed flwyddyn i'r Brenin Artaxerxes, dychwelodd i Jerwsalem gyda rhai o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r cantorion a'r porthorion a gweision y deml;
8 a chyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis yn seithfed flwyddyn y brenin.
9 Yr oedd wedi cychwyn ar y daith o Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis; yr oedd Esra wedi cael ffafr gan ei Dduw,
10 oherwydd iddo ymroi i chwilio cyfraith yr ARGLWYDD a'i chadw, ac i ddysgu deddfau a chyfreithiau yn Israel.
11 Dyma gopi o'r llythyr a roes y Brenin Artaxerxes i Esra'r offeiriad a'r ysgrifennydd, un cyfarwydd � chynnwys gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ddeddfau i Israel:
12 "Artaxerxes brenin y brenhinoedd at Esra'r offeiriad, ysgrifennydd cyfraith Duw'r nefoedd, cyfarchion!
13 Yn awr dyma fy ngorchmynion i bwy bynnag yn fy nheyrnas o bobl Israel a'u hoffeiriaid a'u Lefiaid sy'n dymuno mynd gyda thi i Jerwsalem: caiff fynd.
14 Oherwydd fe'th anfonir gan y brenin a'i saith gynghorwr i wneud arolwg o Jwda a Jerwsalem ynglu375?n � chyfraith dy Dduw, sydd dan dy ofal.
15 Dygi'r arian a'r aur a roddwyd yn wirfoddol gan y brenin a'i gynghorwyr i Dduw Israel, sydd �'i drigfan yn Jerwsalem,
16 a hefyd yr holl arian a'r aur a gei di trwy holl dalaith Babilon, ac offrymau gwirfoddol y bobl a'r offeiriaid a roddwyd at du375? eu Duw yn Jerwsalem.
17 �'r arian yma gofala brynu teirw, hyrddod ac u373?yn, gyda'u bwydoffrwm a'u diodoffrwm, a'u haberthu ar allor tu375? eich Duw yn Jerwsalem.
18 � gweddill yr arian a'r aur cei di a'th gymrodyr wneud fel y gwelwch orau, yn �l ewyllys eich Duw.
19 Am y llestri a roddwyd i ti at wasanaeth tu375? dy Dduw, gosod hwy o'i flaen yn Jerwsalem.
20 A pha beth bynnag arall sy'n angenrheidiol i du375? dy Dduw, ac y disgwylir i ti ei roi, rho ef o storfa'r brenin.
21 Ac yr wyf fi, y Brenin Artaxerxes, yn rhoi'r gorchymyn hwn i holl drysoryddion talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates: Rhowch yn ddiymdroi bob peth a ofynnir ichwi gan Esra'r offeiriad, ysgrifennydd cyfraith Duw'r nefoedd,
22 hyd at gan talent o arian, can mesur yr un o wenith, gwin ac olew, a halen heb fesur.
23 Gwnewch bopeth ar gyfer tu375? Duw'r nefoedd yn union fel y mae Duw'r nefoedd wedi ei orchymyn, rhag iddo lidio yn erbyn teyrnas y brenin a'i feibion.
24 Yr ydym hefyd yn eich hysbysu nad yw'n gyfreithlon gosod treth, teyrnged na tholl ar neb o offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision na gweinidogion tu375? Dduw.
25 A thithau, Esra, yn unol �'r ddoethineb ddwyfol sydd gennyt, ethol swyddogion a barnwyr i farnu pawb yn Tu-hwnt-i'r-Ewffrates sy'n gwybod cyfraith dy Dduw, ac i ddysgu pawb sydd heb ei gwybod.
26 Pob un nad yw'n cadw cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, dyger ef yn ddi-oed i farn, a'i ddedfrydu naill ai i farwolaeth neu i alltudiaeth neu ddirwy neu garchar."
27 Yna dywedodd Esra: "Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw ein hynafiaid, a symbylodd y brenin i harddu tu375?'r ARGLWYDD yn Jerwsalem,
28 ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i bendefigion. Am fod yr ARGLWYDD fy Nuw yn fy nerthu, ymwrolais a chasglu rhai blaenllaw o blith yr Israeliaid i fynd gyda mi."