Uma: New Testament

Welsh

Job

6

1 Atebodd Job:
2 "O na ellid pwyso fy nhrallod, a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!
3 Yna byddai'n drymach na thywod y m�r; am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.
4 Y mae saethau'r Hollalluog ynof; yfodd fy ysbryd eu gwenwyn; dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.
5 A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt? A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?
6 A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen? A oes blas ar sudd y malws?
7 Y mae fy stumog yn eu gwrthod; y maent fel pydredd fy nghnawd.
8 "O na dd�i fy nymuniad i ben, ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!
9 O na ryngai fodd i Dduw fy nharo, ac estyn ei law i'm torri i lawr!
10 Byddai o hyd yn gysur imi, a llawenhawn yn yr ing diarbed (nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).
11 Pa nerth sydd gennyf i obeithio, a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?
12 Ai nerth cerrig yw fy nerth? Ai pres yw fy nghnawd?
13 Wele, nid oes imi gymorth ynof, a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.
14 Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf, er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.
15 Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol; fel nentydd sy'n gorlifo,
16 yn dywyll gan rew, ac eira yn cuddio ynddynt.
17 Ond pan ddaw poethder fe beidiant, ac yn y gwres diflannant o'u lle.
18 Troella'r carafanau yn eu ffyrdd, crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.
19 Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt, a marsiand�wyr Sheba yn disgwyl wrthynt.
20 Cywilyddir hwy yn eu hyder; d�nt atynt, ac fe'u siomir.
21 Felly yr ydych chwithau i mi; gwelwch drychineb, a dychrynwch.
22 A ddywedais o gwbl, 'Rhowch imi, ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;
23 achubwch fi o afael y gelyn, a rhyddhewch fi o afael gormeswyr'?
24 "Hyfforddwch fi, a thawaf; a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.
25 Mor ddiflas yw geiriau uniawn! Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?
26 A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau, gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?
27 A fwriech goelbren am yr amddifad, a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?
28 Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf; ai celwydd a ddywedaf yn eich gu373?ydd?
29 Trowch; na foed anghyfiawnder. Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.
30 A oes anghyfiawnder ar fy nhafod? Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?