1 Geiriau Nehemeia fab Hachaleia. Ym mis Cislef yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn yn y palas yn Susan,
2 cyrhaeddodd Hanani, un o'm brodyr, a gwu375?r o Jwda gydag ef. Holais hwy am Jerwsalem ac am yr Iddewon, y rhai dihangol a adawyd ar �l heb fynd i'r gaethglud.
3 Dywedasant hwythau wrthyf, "Y mae'r gweddill a adawyd ar �l yn y dalaith, heb eu caethgludo, mewn trybini mawr a gofid; drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth � th�n."
4 Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo, a b�m yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gwedd�o ar Dduw y nefoedd.
5 Dywedais, "O ARGLWYDD Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,
6 yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gwedd�o o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thu375? fy nhad wedi pechu yn dy erbyn,
7 ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio � chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses.
8 Cofia'r rhybudd a roddaist i'th was Moses pan ddywedaist, 'Os byddwch yn anffyddlon, byddaf fi'n eich gwasgaru ymysg y bobloedd;
9 ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.'
10 Dy weision a'th bobl di ydynt � rhai a waredaist �'th allu mawr ac �'th law nerthol.
11 O ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was a'th weision sy'n ymhyfrydu mewn parchu dy enw, a rho lwyddiant i'th was heddiw a ph�r iddo gael trugaredd gerbron y gu373?r hwn." Yr oeddwn i yn drulliad i'r brenin.