World English Bible

Welsh

1 Kings

18

1It happened after many days, that the word of Yahweh came to Elijah, in the third year, saying, “Go, show yourself to Ahab; and I will send rain on the earth.”
1 Aeth cryn amser heibio, ac yn y drydedd flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD at Elias gan ddweud, "Dos, dangos dy hun i Ahab er mwyn imi roi glaw ar wyneb y tir."
2Elijah went to show himself to Ahab. The famine was severe in Samaria.
2 Aeth Elias i'w ddangos ei hun i Ahab.
3Ahab called Obadiah, who was over the household. (Now Obadiah feared Yahweh greatly:
3 Gan fod y newyn yn drwm yn Samaria, galwodd Ahab ar Obadeia, goruchwyliwr ei du375?.
4for it was so, when Jezebel cut off the prophets of Yahweh, that Obadiah took one hundred prophets, and hid them by fifty in a cave, and fed them with bread and water.)
4 Yr oedd Obadeia yn ofni'r ARGLWYDD yn fawr, a phan ddistrywiodd Jesebel broffwydi'r ARGLWYDD, fe gymerodd Obadeia gant o broffwydi a'u cuddio mewn ogof fesul hanner cant, a'u cynnal � bwyd a diod.
5Ahab said to Obadiah, “Go through the land, to all the springs of water, and to all the brooks. Perhaps we may find grass and save the horses and mules alive, that we not lose all the animals.”
5 A dywedodd Ahab wrth Obadeia, "Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail."
6So they divided the land between them to pass throughout it: Ahab went one way by himself, and Obadiah went another way by himself.
6 Ac wedi rhannu'r wlad rhyngddynt i gerdded drwyddi, aeth Ahab ei hun un ffordd, ac Obadeia ffordd arall.
7As Obadiah was in the way, behold, Elijah met him: and he recognized him, and fell on his face, and said, “Is it you, my lord Elijah?”
7 A phan oedd Obadeia ar ei ffordd, daeth Elias i'w gyfarfod; adnabu yntau ef, a syrthio ar ei wyneb a dweud, "Ai ti sydd yna, f'arglwydd Elias?"
8He answered him, “It is I. Go, tell your lord, ‘Behold, Elijah is here!’”
8 "Ie," atebodd yntau, "dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael."
9He said, “Wherein have I sinned, that you would deliver your servant into the hand of Ahab, to kill me?
9 Ond meddai hwnnw, "Beth yw fy mai, dy fod yn rhoi dy was yn llaw Ahab i'm lladd?
10As Yahweh your God lives, there is no nation or kingdom, where my lord has not sent to seek you. When they said, ‘He is not here,’ he took an oath of the kingdom and nation, that they didn’t find you.
10 Cyn wired � bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, 'Nid yw yma', byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.
11Now you say, ‘Go, tell your lord, “Behold, Elijah is here.”’
11 A dyma ti'n dweud wrthyf, 'Dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael'!
12It will happen, as soon as I am gone from you, that the Spirit of Yahweh will carry you I don’t know where; and so when I come and tell Ahab, and he can’t find you, he will kill me. But I, your servant, have feared Yahweh from my youth.
12 Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd � ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.
13Wasn’t it told my lord what I did when Jezebel killed the prophets of Yahweh, how I hid one hundred men of Yahweh’s prophets with fifty to a cave, and fed them with bread and water?
13 Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal � bwyd a diod?
14Now you say, ‘Go, tell your lord, “Behold, Elijah is here”;’ and he will kill me.”
14 A dyma ti'n dweud wrthyf, 'Dos a dywed wrth f'arglwydd fod Elias ar gael'! Y mae'n sicr o'm lladd."
15Elijah said, “As Yahweh of Armies lives, before whom I stand, I will surely show myself to him today.”
15 Dywedodd Elias, "Cyn wired � bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, yr wyf am ymddangos iddo heddiw."
16So Obadiah went to meet Ahab, and told him; and Ahab went to meet Elijah.
16 Yna aeth Obadeia i gyfarfod Ahab a dweud wrtho; ac aeth Ahab i gyfarfod Elias.
17It happened, when Ahab saw Elijah, that Ahab said to him, “Is that you, you troubler of Israel?”
17 Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, "Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?"
18He answered, “I have not troubled Israel; but you, and your father’s house, in that you have forsaken the commandments of Yahweh, and you have followed the Baals.
18 Atebodd yntau, "Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim.
19Now therefore send, and gather to me all Israel to Mount Carmel, and four hundred fifty of the prophets of Baal, and four hundred of the prophets of the Asherah, who eat at Jezebel’s table.”
19 Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal."
20So Ahab sent to all the children of Israel, and gathered the prophets together to Mount Carmel.
20 Anfonodd Ahab at yr holl Israeliaid, a chasglu'r proffwydi i Fynydd Carmel.
21Elijah came near to all the people, and said, “How long will you waver between the two sides? If Yahweh is God, follow him; but if Baal, then follow him.” The people answered him not a word.
21 Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw." Ond nid atebodd y bobl air iddo.
22Then Elijah said to the people, “I, even I only, am left a prophet of Yahweh; but Baal’s prophets are four hundred fifty men.
22 Yna meddai Elias wrth y bobl, "Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner.
23Let them therefore give us two bulls; and let them choose one bull for themselves, and cut it in pieces, and lay it on the wood, and put no fire under; and I will dress the other bull, and lay it on the wood, and put no fire under it.
23 Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi t�n dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi t�n dano.
24You call on the name of your god, and I will call on the name of Yahweh. The God who answers by fire, let him be God.” All the people answered, “It is well said.”
24 Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy d�n fydd Dduw."
25Elijah said to the prophets of Baal, “Choose one bull for yourselves, and dress it first; for you are many; and call on the name of your god, but put no fire under it.”
25 Atebodd yr holl bobl, "Cynllun da!" Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, "Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio � rhoi t�n."
26They took the bull which was given them, and they dressed it, and called on the name of Baal from morning even until noon, saying, Baal, hear us. But there was no voice, nor any who answered. They leaped about the altar which was made.
26 Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, "Baal, ateb ni!" Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor.
27It happened at noon, that Elijah mocked them, and said, “Cry aloud; for he is a god. Either he is musing, or he has gone aside, or he is on a journey, or perhaps he sleeps and must be awakened.”
27 Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, "Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro."
28They cried aloud, and cut themselves in their way with knives and lances, until the blood gushed out on them.
28 Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn �l eu harfer � chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt.
29It was so, when midday was past, that they prophesied until the time of the offering of the offering; but there was neither voice, nor any to answer, nor any who regarded.
29 Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
30Elijah said to all the people, “Come near to me”; and all the people came near to him. He repaired the altar of Yahweh that was thrown down.
30 Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, "Dewch yn nes ataf"; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio;
31Elijah took twelve stones, according to the number of the tribes of the sons of Jacob, to whom the word of Yahweh came, saying, “Israel shall be your name.”
31 a chymerodd ddeuddeg carreg, yn �l nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, "Israel fydd dy enw").
32With the stones he built an altar in the name of Yahweh. He made a trench around the altar, large enough to contain two measures of seed.
32 Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.
33He put the wood in order, and cut the bull in pieces, and laid it on the wood. He said, “Fill four jars with water, and pour it on the burnt offering, and on the wood.”
33 Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed,
34He said, “Do it a second time”; and they did it the second time. He said, “Do it a third time”; and they did it the third time.
34 ac yna meddai, "Llanwch bedwar llestr � du373?r, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed." Yna dywedodd, "Gwnewch eilwaith"; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, "Gwnewch y drydedd waith"; a gwnaethant y trydydd tro,
35The water ran around the altar; and he also filled the trench with water.
35 nes bod y du373?r yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos.
36It happened at the time of the offering of the offering, that Elijah the prophet came near, and said, “Yahweh, the God of Abraham, of Isaac, and of Israel, let it be known this day that you are God in Israel, and that I am your servant, and that I have done all these things at your word.
36 Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, "O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, p�r wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.
37Hear me, Yahweh, hear me, that this people may know that you, Yahweh, are God, and that you have turned their heart back again.”
37 Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn �l drachefn."
38Then the fire of Yahweh fell, and consumed the burnt offering, and the wood, and the stones, and the dust, and licked up the water that was in the trench.
38 Ar hynny disgynnodd t�n yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r du373?r oedd yn y ffos.
39When all the people saw it, they fell on their faces. They said, “Yahweh, he is God! Yahweh, he is God!”
39 Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, "Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!"
40Elijah said to them, “Seize the prophets of Baal! Don’t let one of them escape!” They seized them. Elijah brought them down to the brook Kishon, and killed them there.
40 Yna dywedodd Elias wrthynt, "Daliwch broffwydi Baal; peidiwch � gadael i'r un ohonynt ddianc." Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias � hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.
41Elijah said to Ahab, “Get up, eat and drink; for there is the sound of abundance of rain.”
41 Dywedodd Elias wrth Ahab, "Dos yn �l, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae su373?n glaw."
42So Ahab went up to eat and to drink. Elijah went up to the top of Carmel; and he bowed himself down on the earth, and put his face between his knees.
42 Felly aeth Ahab yn ei �l i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau.
43He said to his servant, “Go up now, look toward the sea.” He went up, and looked, and said, “There is nothing.” He said, “Go again” seven times.
43 Yna dywedodd wrth ei lanc, "Dos di i fyny ac edrych tua'r m�r." Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, "Nid oes dim i'w weld." A saith waith y dywedodd wrtho, "Dos eto."
44It happened at the seventh time, that he said, “Behold, a small cloud, like a man’s hand, is rising out of the sea.” He said, “Go up, tell Ahab, ‘Get ready and go down, so that the rain doesn’t stop you.’”
44 A'r seithfed tro dywedodd y llanc, "Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r m�r." Yna dywedodd Elias wrtho, "Dos, dywed wrth Ahab, 'Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.'"
45It happened in a little while, that the sky grew black with clouds and wind, and there was a great rain. Ahab rode, and went to Jezreel.
45 Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel.
46The hand of Yahweh was on Elijah; and he tucked his cloak into his belt and ran before Ahab to the entrance of Jezreel.
46 Daeth llaw yr ARGLWYDD ar Elias, tynhaodd yntau rwymyn am ei lwynau, a rhedodd o flaen Ahab hyd at y fynedfa i Jesreel.