1I wish that you would bear with me in a little foolishness, but indeed you do bear with me.
1 O na baech yn fy ngoddef yn fy nhipyn ffolineb! Da chwi, goddefwch fi!
2For I am jealous over you with a godly jealousy. For I married you to one husband, that I might present you as a pure virgin to Christ.
2 Oherwydd yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun, gan i mi eich dywedd�o i un gu373?r, eich cyflwyno yn wyryf bur i Grist.
3But I am afraid that somehow, as the serpent deceived Eve in his craftiness, so your minds might be corrupted from the simplicity that is in Christ.
3 Ond fel y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y mae arnaf ofn y llygrir eich meddyliau chwi yn yr un modd, a'ch troi oddi wrth ddidwylledd a phurdeb eich ymlyniad wrth Grist.
4For if he who comes preaches another Jesus, whom we did not preach, or if you receive a different spirit, which you did not receive, or a different “good news”, which you did not accept, you put up with that well enough.
4 Oherwydd os daw rhywun a phregethu Iesu arall, na phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd gwahanol i'r Ysbryd a dderbyniasoch, neu efengyl wahanol i'r Efengyl a dderbyniasoch, yr ydych yn goddef y cwbl yn llawen.
5For I reckon that I am not at all behind the very best apostles.
5 Nid wyf yn f'ystyried fy hun yn �l mewn dim i'r archapostolion hyn.
6But though I am unskilled in speech, yet I am not unskilled in knowledge. No, in every way we have been revealed to you in all things.
6 Hyd yn oed os wyf yn anfedrus fel siaradwr, nid wyf felly mewn gwybodaeth; ym mhob ffordd ac ar bob cyfle yr ydym wedi gwneud hyn yn eglur i chwi.
7Or did I commit a sin in humbling myself that you might be exalted, because I preached to you God’s Good News free of charge?
7 A wneuthum drosedd wrth fy narostwng fy hun er mwyn ichwi gael eich dyrchafu, trwy bregethu ichwi Efengyl Duw yn ddi-d�l?
8I robbed other assemblies, taking wages from them that I might serve you.
8 Ysbeiliais eglwysi eraill trwy dderbyn cyflog ganddynt er mwyn eich gwasanaethu chwi.
9When I was present with you and was in need, I wasn’t a burden on anyone, for the brothers, when they came from Macedonia, supplied the measure of my need. In everything I kept myself from being burdensome to you, and I will continue to do so.
9 A phan oeddwn gyda chwi ac mewn angen, ni b�m yn faich ar neb, oherwydd diwallodd y cyfeillion a ddaeth o Facedonia fy angen. Ym mhob peth fe'm cedwais, ac fe'm cadwaf, fy hun rhag bod yn dreth arnoch.
10As the truth of Christ is in me, no one will stop me from this boasting in the regions of Achaia.
10 Cyn wired � bod gwirionedd Crist ynof, ni roddir taw ar fy ymffrost hwn yn ardaloedd Achaia.
11Why? Because I don’t love you? God knows.
11 Pam? Am nad wyf yn eich caru? Fe u373?yr Duw fy mod.
12But what I do, that I will do, that I may cut off occasion from them that desire an occasion, that in which they boast, they may be found even as we.
12 Daliaf i wneud yr hyn yr wyf yn ei wneud yn awr, i ddwyn eu cyfle oddi ar y rhai sy'n ceisio cyfle, yn y swydd y maent yn ymffrostio ynddi, i gael eu cyfrif yn gyfartal � ni.
13For such men are false apostles, deceitful workers, masquerading as Christ’s apostles.
13 Ffug apostolion yw'r fath rai, gweithwyr twyllodrus, yn ymrithio fel apostolion i Grist.
14And no wonder, for even Satan masquerades as an angel of light.
14 Ac nid rhyfedd, oherwydd y mae Satan yntau yn ymrithio fel angel goleuni.
15It is no great thing therefore if his servants also masquerade as servants of righteousness, whose end will be according to their works.
15 Nid yw'n beth mawr, felly, os yw ei weision hefyd yn ymrithio fel gweision cyfiawnder. Bydd eu diwedd yn unol �'u gweithredoedd.
16I say again, let no one think me foolish. But if so, yet receive me as foolish, that I also may boast a little.
16 Rwy'n dweud eto: na thybied neb fy mod yn ff�l. Ond os gwnewch, rhowch i mi ryddid un ff�l i ymffrostio tipyn bach.
17That which I speak, I don’t speak according to the Lord, but as in foolishness, in this confidence of boasting.
17 Yr wyf yn siarad yn awr, yn yr hyder ymffrostgar hwn, nid fel y mynnai'r Arglwydd imi siarad, ond mewn ffolineb.
18Seeing that many boast after the flesh, I will also boast.
18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn �l safonau'r cnawd, fe ymffrostiaf finnau hefyd.
19For you bear with the foolish gladly, being wise.
19 Oherwydd yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, a chwithau mor ddoeth!
20For you bear with a man, if he brings you into bondage, if he devours you, if he takes you captive, if he exalts himself, if he strikes you on the face.
20 Os bydd rhywun yn eich caethiwo, neu yn eich ysbeilio, neu yn cymryd mantais arnoch, neu yn ymddyrchafu, neu yn eich taro ar eich wyneb, yr ydych yn goddef y cwbl.
21I speak by way of disparagement, as though we had been weak. Yet however any is bold (I speak in foolishness), I am bold also.
21 Rwy'n cydnabod, er cywilydd, i ni fod yn wan yn hyn o beth. Ond os oes rhywbeth y beiddia rhywun ymffrostio amdano, fe feiddiaf finnau hefyd � mewn ffolineb yr wyf yn siarad.
22Are they Hebrews? So am I. Are they Israelites? So am I. Are they the seed of Abraham? So am I.
22 Ai Hebreaid ydynt? Minnau hefyd. Ai Israeliaid ydynt? Minnau hefyd. Ai disgynyddion Abraham ydynt? Minnau hefyd.
23Are they servants of Christ? (I speak as one beside himself) I am more so; in labors more abundantly, in prisons more abundantly, in stripes above measure, in deaths often.
23 Ai gweision Crist ydynt? Yr wyf yn siarad yn wallgof, myfi yn fwy; yn fwy o lawer mewn llafur, yn amlach o lawer yng ngharchar, dan y fflangell yn fwy mynych, mewn perygl einioes dro ar �l tro.
24Five times from the Jews I received forty stripes minus one.
24 Pumwaith y cefais ar law'r Iddewon y deugain llach ond un.
25Three times I was beaten with rods. Once I was stoned. Three times I suffered shipwreck. I have been a night and a day in the deep.
25 Tair gwaith fe'm curwyd � ffyn, unwaith fe'm llabyddiwyd, tair gwaith b�m mewn llongddrylliad, ac am ddiwrnod a noson b�m yn y m�r.
26I have been in travels often, perils of rivers, perils of robbers, perils from my countrymen, perils from the Gentiles, perils in the city, perils in the wilderness, perils in the sea, perils among false brothers;
26 B�m ar deithiau yn fynych, mewn peryglon gan afonydd, peryglon ar law lladron, peryglon ar law fy nghenedl fy hun ac ar law'r Cenhedloedd, peryglon yn y dref ac yn yr anialwch ac ar y m�r, a pheryglon ymhlith gau gredinwyr.
27in labor and travail, in watchings often, in hunger and thirst, in fastings often, and in cold and nakedness.
27 B�m mewn llafur a lludded, yn fynych heb gwsg, mewn newyn a syched, yn fynych heb luniaeth, yn oer ac yn noeth.
28Besides those things that are outside, there is that which presses on me daily, anxiety for all the assemblies.
28 Ar wah�n i bob peth arall, y mae'r gofal dros yr holl eglwysi yn gwasgu arnaf ddydd ar �l dydd.
29Who is weak, and I am not weak? Who is caused to stumble, and I don’t burn with indignation?
29 Pan fydd rhywun yn wan, onid wyf finnau'n wan? Pan berir i rywun gwympo, onid wyf finnau'n llosgi gan ddicter?
30If I must boast, I will boast of the things that concern my weakness.
30 Os oes rhaid ymffrostio, ymffrostiaf am y pethau sy'n perthyn i'm gwendid.
31The God and Father of the Lord Jesus Christ, he who is blessed forevermore, knows that I don’t lie.
31 Y mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sydd fendigedig am byth, yn gwybod nad wyf yn dweud celwydd.
32In Damascus the governor under King Aretas guarded the city of the Damascenes desiring to arrest me.
32 Yn Namascus, yr oedd y llyw-odraethwr oedd dan y Brenin Aretas yn gwylio dinas Damascus er mwyn fy nal i,
33Through a window I was let down in a basket by the wall, and escaped his hands.
33 ond cefais fy ngollwng i lawr mewn basged drwy ffenestr yn y mur, a dihengais o'i afael.