1But I determined this for myself, that I would not come to you again in sorrow.
1 Penderfynais beidio � dod atoch unwaith eto mewn tristwch.
2For if I make you sorry, then who will make me glad but he who is made sorry by me?
2 Oherwydd os wyf fi'n eich trist�u, pwy fydd yna i'm llonni i ond y sawl a wnaed yn drist gennyf fi?
3And I wrote this very thing to you, so that, when I came, I wouldn’t have sorrow from them of whom I ought to rejoice; having confidence in you all, that my joy would be shared by all of you.
3 Ac ysgrifennais y llythyr hwnnw rhag imi ddod atoch, a chael tristwch gan y rhai a ddylai roi llawenydd imi. Y mae gennyf hyder amdanoch chwi oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwithau i gyd.
4For out of much affliction and anguish of heart I wrote to you with many tears, not that you should be made sorry, but that you might know the love that I have so abundantly for you.
4 Oherwydd ysgrifennais atoch o ganol gorthrymder mawr a gofid calon, ac mewn dagrau lawer, nid i'ch trist�u chwi ond er mwyn ichwi wybod mor helaeth yw'r cariad sydd gennyf tuag atoch.
5But if any has caused sorrow, he has caused sorrow, not to me, but in part (that I not press too heavily) to you all.
5 Os yw rhywun wedi peri tristwch, nid i mi y gwnaeth hynny, ond i chwi i gyd � i raddau, beth bynnag, rhag i mi or-ddweud.
6Sufficient to such a one is this punishment which was inflicted by the many;
6 Digon i'r fath un y gosb hon a osodwyd arno gan y mwyafrif,
7so that on the contrary you should rather forgive him and comfort him, lest by any means such a one should be swallowed up with his excessive sorrow.
7 a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch.
8Therefore I beg you to confirm your love toward him.
8 Am hynny yr wyf yn eich cymell i adfer eich cariad tuag ato.
9For to this end I also wrote, that I might know the proof of you, whether you are obedient in all things.
9 Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth.
10Now I also forgive whomever you forgive anything. For if indeed I have forgiven anything, I have forgiven that one for your sakes in the presence of Christ,
10 Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist,
11that no advantage may be gained over us by Satan; for we are not ignorant of his schemes.
11 rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef.
12Now when I came to Troas for the Good News of Christ, and when a door was opened to me in the Lord,
12 Pan ddeuthum i Troas i bregethu Efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i'm gwaith yn yr Arglwydd,
13I had no relief for my spirit, because I didn’t find Titus, my brother, but taking my leave of them, I went out into Macedonia.
13 ni chefais lonydd i'm hysbryd am na ddeuthum o hyd i'm brawd Titus. Felly cenais yn iach iddynt, a chychwyn am Facedonia.
14Now thanks be to God, who always leads us in triumph in Christ, and reveals through us the sweet aroma of his knowledge in every place.
14 Ond i Dduw y bo'r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ym mhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono.
15For we are a sweet aroma of Christ to God, in those who are saved, and in those who perish;
15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, i'r rhai sydd ar lwybr iachawdwriaeth ac i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth;
16to the one a stench from death to death; to the other a sweet aroma from life to life. Who is sufficient for these things?
16 i'r naill, arogl marwol yn arwain i farwolaeth; i'r lleill, persawr bywiol yn arwain i fywyd. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn?
17For we are not as so many, peddling the word of God. But as of sincerity, but as of God, in the sight of God, we speak in Christ.
17 Oherwydd nid pedlera gair Duw yr ydym ni fel y gwna cynifer, ond llefaru fel dynion didwyll, fel cenhadon Duw, a hynny yng ngu373?ydd Duw, yng Nghrist.