1For we know that if the earthly house of our tent is dissolved, we have a building from God, a house not made with hands, eternal, in the heavens.
1 Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tu375? nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd.
2For most certainly in this we groan, longing to be clothed with our habitation which is from heaven;
2 Yma yn wir yr ydym yn ochneidio yn ein hiraeth am gael ein harwisgo �'r corff o'r nef sydd i fod yn gartref inni;
3if so be that being clothed we will not be found naked.
3 o'n gwisgo felly, ni cheir mohonom yn noeth.
4For indeed we who are in this tent do groan, being burdened; not that we desire to be unclothed, but that we desire to be clothed, that what is mortal may be swallowed up by life.
4 Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd.
5Now he who made us for this very thing is God, who also gave to us the down payment of the Spirit.
5 Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes.
6Therefore we are always confident and know that while we are at home in the body, we are absent from the Lord;
6 Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd;
7for we walk by faith, not by sight.
7 oherwydd yn �l ffydd yr ydym yn rhodio, nid yn �l golwg.
8We are courageous, I say, and are willing rather to be absent from the body, and to be at home with the Lord.
8 Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd.
9Therefore also we make it our aim, whether at home or absent, to be well pleasing to him.
9 Y mae ein bryd, felly, gartref neu oddi cartref, ar fod yn gymeradwy ganddo ef.
10For we must all be revealed before the judgment seat of Christ; that each one may receive the things in the body, according to what he has done, whether good or bad.
10 Oherwydd rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, er mwyn i bob un dderbyn ei d�l yn �l ei weithredoedd yn y corff, ai da ai drwg.
11Knowing therefore the fear of the Lord, we persuade men, but we are revealed to God; and I hope that we are revealed also in your consciences.
11 Felly, o wybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio pobl; y mae'r hyn ydym yn hysbys i Dduw, ac rwy'n gobeithio ei fod yn hysbys i'ch cydwybod chwi hefyd.
12For we are not commending ourselves to you again, but speak as giving you occasion of boasting on our behalf, that you may have something to answer those who boast in appearance, and not in heart.
12 Nid ydym yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto i chwi, ond rhoi cyfle yr ydym i chwi i ymffrostio o'n hachos ni, er mwyn ichwi gael ateb i'r rhai sy'n ymffrostio yn yr hyn sydd ar yr wyneb yn hytrach na'r hyn sydd yn y galon.
13For if we are beside ourselves, it is for God. Or if we are of sober mind, it is for you.
13 Os ydym allan o'n pwyll, er mwyn Duw y mae hynny; os ydym yn ein hiawn bwyll, er eich mwyn chwi y mae hynny.
14For the love of Christ constrains us; because we judge thus, that one died for all, therefore all died.
14 Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi ein hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw.
15He died for all, that those who live should no longer live to themselves, but to him who for their sakes died and rose again.
15 A bu ef farw dros bawb er mwyn i'r byw beidio � byw iddynt eu hunain mwyach, ond i'r un a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
16Therefore we know no one after the flesh from now on. Even though we have known Christ after the flesh, yet now we know him so no more.
16 O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach.
17Therefore if anyone is in Christ, he is a new creation. The old things have passed away. Behold, all things have become new.
17 Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma.
18But all things are of God, who reconciled us to himself through Jesus Christ, and gave to us the ministry of reconciliation;
18 Ond gwaith Duw yw'r cyfan � Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod.
19namely, that God was in Christ reconciling the world to himself, not reckoning to them their trespasses, and having committed to us the word of reconciliation.
19 Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.
20We are therefore ambassadors on behalf of Christ, as though God were entreating by us: we beg you on behalf of Christ, be reconciled to God.
20 Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi � Duw.
21For him who knew no sin he made to be sin on our behalf; so that in him we might become the righteousness of God.
21 Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un � phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.