1Paul, an apostle of Jesus Christ through the will of God, according to the promise of the life which is in Christ Jesus,
1 Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn unol �'r addewid am y bywyd sydd yng Nghrist Iesu,
2to Timothy, my beloved child: Grace, mercy, and peace, from God the Father and Christ Jesus our Lord.
2 at Timotheus, ei blentyn annwyl. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3I thank God, whom I serve as my forefathers did, with a pure conscience. How unceasing is my memory of you in my petitions, night and day
3 Yr wyf yn diolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu � chydwybod bur fel y gwnaeth fy hynafiaid, pan fyddaf yn cofio amdanat yn fy ngwedd�au, fel y gwnaf yn ddi-baid nos a dydd.
4longing to see you, remembering your tears, that I may be filled with joy;
4 Wrth gofio am dy ddagrau, rwy'n hiraethu am dy weld a chael fy llenwi � llawenydd.
5having been reminded of the sincere faith that is in you; which lived first in your grandmother Lois, and your mother Eunice, and, I am persuaded, in you also.
5 Daw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd.
6For this cause, I remind you that you should stir up the gift of God which is in you through the laying on of my hands.
6 O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw yngynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.
7For God didn’t give us a spirit of fear, but of power, love, and self-control.
7 Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.
8Therefore don’t be ashamed of the testimony of our Lord, nor of me his prisoner; but endure hardship for the Good News according to the power of God,
8 Felly, na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd, na chywilydd ohonof fi, ei garcharor ef; ond cymer dy gyfran o ddioddefaint dros yr Efengyl, trwy'r nerth yr ydym yn ei gael gan Dduw.
9who saved us and called us with a holy calling, not according to our works, but according to his own purpose and grace, which was given to us in Christ Jesus before times eternal,
9 Ef a'n hachubodd ni, a'n galw � galwedigaeth sanctaidd, nid ar sail ein gweithredoedd ond yn unol �'i arfaeth ei hun a'i ras, y gras a roddwyd inni yng Nghrist Iesu cyn dechrau'r oesoedd,
10but has now been revealed by the appearing of our Savior, Christ Jesus, who abolished death, and brought life and immortality to light through the Good News.
10 ond a amlygwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Gwaredwr, Crist Iesu. Oherwydd y mae ef wedi dirymu marwolaeth, a dod � bywyd ac anfarwoldeb i'r golau trwy'r Efengyl.
11For this, I was appointed as a preacher, an apostle, and a teacher of the Gentiles.
11 I'r Efengyl hon yr wyf fi wedi fy mhenodi'n bregethwr, yn apostol ac yn athro.
12For this cause I also suffer these things. Yet I am not ashamed, for I know him whom I have believed, and I am persuaded that he is able to guard that which I have committed to him against that day.
12 Dyma'r rheswm, yn wir, fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd o'r peth, oherwydd mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac rwy'n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw'n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i'm gofal.
13Hold the pattern of sound words which you have heard from me, in faith and love which is in Christ Jesus.
13 Cymer fel patrwm i'w ddilyn y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
14That good thing which was committed to you, guard through the Holy Spirit who dwells in us.
14 Cadw'n ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Gl�n sy'n trigo ynom, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i'th ofal.
15This you know, that all who are in Asia turned away from me; of whom are Phygelus and Hermogenes.
15 Fel y gwyddost, y mae pawb yn Asia wedi cefnu arnaf, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes.
16May the Lord grant mercy to the house of Onesiphorus, for he often refreshed me, and was not ashamed of my chain,
16 Ond dangosed yr Arglwydd drugaredd tuag at deulu Onesifforus, oherwydd cododd ef fy nghalon droeon, ac ni bu arno gywilydd fy mod mewn cadwynau.
17but when he was in Rome, he sought me diligently, and found me
17 Yn wir, pan ddaeth i Rufain, aeth i drafferth fawr i chwilio amdanaf, a daeth o hyd imi.
18(the Lord grant to him to find the Lord’s mercy in that day); and in how many things he served at Ephesus, you know very well.
18 Rhodded yr Arglwydd iddo ddod o hyd i drugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw. Fe wyddost ti yn dda gymaint o wasanaeth a roddodd ef yn Effesus.