World English Bible

Welsh

Malachi

2

1“Now, you priests, this commandment is for you.
1 Yn awr, offeiriaid, i chwi y mae'r gorchymyn hwn.
2If you will not listen, and if you will not lay it to heart, to give glory to my name,” says Yahweh of Armies, “then will I send the curse on you, and I will curse your blessings. Indeed, I have cursed them already, because you do not lay it to heart.
2 "Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.
3Behold, I will rebuke your seed, and will spread dung on your faces, even the dung of your feasts; and you will be taken away with it.
3 Wele fi'n torri ymaith eich braich ac yn taflu carthion i'ch wynebau, carthion eich uchel-wyliau, ac yn eich troi ymaith oddi wrthyf.
4You will know that I have sent this commandment to you, that my covenant may be with Levi,” says Yahweh of Armies.
4 Yna cewch wybod imi anfon y gorchymyn hwn atoch, er mwyn parhau fy nghyfamod � Lefi," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
5“My covenant was with him of life and peace; and I gave them to him that he might be reverent toward me; and he was reverent toward me, and stood in awe of my name.
5 "Fy nghyfamod ag ef oedd bywyd a heddwch; rhoddais hyn iddo er mwyn iddo ofni, ac ofnodd yntau fi a pharchu fy enw.
6The law of truth was in his mouth, and unrighteousness was not found in his lips. He walked with me in peace and uprightness, and turned many away from iniquity.
6 Gwir gyfarwyddyd oedd yn ei enau, ac ni chaed twyll ar ei wefusau; rhodiai gyda mi mewn heddwch ac uniondeb, a throdd lawer oddi wrth ddrygioni.
7For the priest’s lips should keep knowledge, and they should seek the law at his mouth; for he is the messenger of Yahweh of Armies.
7 Y mae gwefusau offeiriad yn diogelu gwybodaeth, ac y mae pawb yn ceisio cyfarwyddyd o'i enau, oherwydd cennad ARGLWYDD y Lluoedd yw.
8But you have turned aside out of the way. You have caused many to stumble in the law. You have corrupted the covenant of Levi,” says Yahweh of Armies.
8 Ond troesoch chwi oddi ar y ffordd, a gwneud i lawer faglu �'ch cyfarwyddyd; yr ydych wedi diddymu cyfamod Lefi," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9“Therefore I have also made you contemptible and base before all the people, according to the way you have not kept my ways, but have had respect for persons in the law.
9 "Yr wyf finnau wedi eich gwneud yn ddirmygus ac yn waradwyddus gan yr holl bobl, yn gymaint ag ichwi beidio � chadw fy ffyrdd, ac ichwi ddangos ffafr yn eich cyfarwyddyd."
10Don’t we all have one father? Hasn’t one God created us? Why do we deal treacherously every man against his brother, profaning the covenant of our fathers?
10 Onid un tad sydd gennym oll? Onid un Duw a'n creodd? Pam felly yr ydym yn dwyllodrus tuag at ein gilydd, gan ddifwyno cyfamod ein hynafiaid?
11Judah has dealt treacherously, and an abomination is committed in Israel and in Jerusalem; for Judah has profaned the holiness of Yahweh which he loves, and has married the daughter of a foreign god.
11 Bu Jwda'n dwyllodrus, a gwnaed pethau ffiaidd yn Israel ac yn Jerwsalem; oherwydd halogodd Jwda y cysegr a g�r yr ARGLWYDD trwy briodi merch duw estron.
12Yahweh will cut off, to the man who does this, him who wakes and him who answers, out of the tents of Jacob, and him who offers an offering to Yahweh of Armies.
12 Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith o bebyll Jacob pwy bynnag a wna hyn, boed dyst neu ddiffynnydd, er iddo ddwyn offrwm i ARGLWYDD y Lluoedd.
13This again you do: you cover the altar of Yahweh with tears, with weeping, and with sighing, because he doesn’t regard the offering any more, neither receives it with good will at your hand.
13 Dyma beth arall a wnewch: yr ydych yn tywallt dagrau ar allor yr ARGLWYDD, gan wylo a galaru am nad yw ef bellach yn edrych ar eich offrwm nac yn derbyn rhodd gennych.
14Yet you say, ‘Why?’ Because Yahweh has been witness between you and the wife of your youth, against whom you have dealt treacherously, though she is your companion, and the wife of your covenant.
14 Yr ydych yn gofyn, "Pam?" Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod.
15Did he not make you one, although he had the residue of the Spirit? Why one? He sought a godly seed. Therefore take heed to your spirit, and let no one deal treacherously against the wife of his youth.
15 Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid.
16For I hate divorce,” says Yahweh, the God of Israel, “and him who covers his garment with violence!” says Yahweh of Armies. “Therefore take heed to your spirit, that you don’t deal treacherously.
16 "Oherwydd yr wyf yn cas�u ysgariad," medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.
17You have wearied Yahweh with your words. Yet you say, ‘How have we wearied him?’ In that you say, ‘Everyone who does evil is good in the sight of Yahweh, and he delights in them;’ or ‘Where is the God of justice?’
17 Yr ydych wedi blino'r ARGLWYDD �'ch geiriau. Gofynnwch, "Sut yr ydym wedi ei flino?" Trwy ddweud, "Y mae pawb sy'n gwneud drygioni yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac y mae'n fodlon arnynt"; neu trwy ofyn, "Ple mae Duw cyfiawnder?"