1Yahweh reigns! Let the peoples tremble. He sits enthroned among the cherubim. Let the earth be moved.
1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd; y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.
2Yahweh is great in Zion. He is high above all the peoples.
2 Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion, y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3Let them praise your great and awesome name. He is Holy!
3 Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy � sanctaidd yw ef.
4The King’s strength also loves justice. You do establish equity. You execute justice and righteousness in Jacob.
4 Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder. Ti sydd wedi sefydlu uniondeb; gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5Exalt Yahweh our God. Worship at his footstool. He is Holy!
5 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw; ymgrymwch o flaen ei droedfainc � sanctaidd yw ef.
6Moses and Aaron were among his priests, Samuel among those who call on his name; they called on Yahweh, and he answered them.
6 Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid, a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7He spoke to them in the pillar of cloud. They kept his testimonies, the statute that he gave them.
7 Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl; cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8You answered them, Yahweh our God. You are a God who forgave them, although you took vengeance for their doings.
8 O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy; Duw yn maddau fuost iddynt, ond yn dial eu camweddau.
9Exalt Yahweh, our God. Worship at his holy hill, for Yahweh, our God, is holy!
9 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw, ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd � sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.