1 Adda, Seth, Enos, 2 Cenan, Mahalalel, Jered, 3 Enoch, Methwsela, Lamech, 4 Noa, Sem, Cham a Jaffeth. 5 Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, Tiras. 6 Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, Togarma. 7 Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Chittim, Dodanim. 8 Meibion Cham: Cus, Misraim, Put, Canaan. 9 Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan. 10 Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear. 11 Misraim oedd tad Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 12 Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y tarddodd y Philistiaid ohonynt. 13 Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth, 14 a'r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid, 15 yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid, 16 yr Arfadiaid, y Semaniaid a'r Hamathiaid. 17 Meibion Sem: Elam, Assur, Arffacsad, Lud, Aram, Us, Hul, Gether, Mesech. 18 Arffacsad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. 19 I Heber y ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. 20 Joctan oedd tad Almodad, Seleff, Hasar-mafeth, Jera, 21 Hadoram, Usal, Dicla, 22 Ebal, Abimael, Seba, 23 Offir, Hafila, Jobab; yr oedd y rhain i gyd yn feibion Joctan. 24 Sem, Arffacsad, Sela, 25 Heber, Peleg, Reu, 26 Serug, Nachor, Tera, 27 Abram, sef Abraham. 28 Meibion Abraham: Isaac ac Ismael, 29 a dyma eu cenedlaethau: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam, 30 Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema, 31 Jetur, Naffis, Cedema. Dyma feibion Ismael. 32 Yr oedd Cetura, gordderchwraig Abraham, yn fam i Simran, Jocsan, Medan, Midian, Ibac, Sua. Meibion Jocsan: Seba a Dedan. 33 Meibion Midian: Effa, Effer, Enoch, Abida, Eldaa; yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura. 34 Abraham oedd tad Isaac. Meibion Isaac: Esau ac Israel. 35 Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Jeus, Jalam, Cora. 36 Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, Timna, Amalec. 37 Meibion Reuel: Nahath, Sera, Samma, Missa. 38 Meibion Seir: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, Dison, Eser, Disan. 39 Meibion Lotan: Hori, Homam; a chwaer Lotan oedd Timna. 40 Meibion Sobal: Al�an, Manahath, Ebal, Seffi, Onam. Meibion Sibeon: Aia ac Ana. 41 Mab Ana: Dison. Meibion Dison: Amram, Esban, Ithran, Ceran. 42 Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran. 43 Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 44 Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le. 45 Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le. 46 Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas. 47 Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le. 48 Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le. 49 Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le. 50 Bu farw Baal-hanan, a theyrnasodd Hadad yn ei le, a Pai oedd enw ei ddinas. Mehetabel ferch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig. 51 Bu farw Hadad; yna daeth penaethiaid ar Edom: y penaethiaid Timna, Alia, Jetheth, 52 Aholibama, Ela, Pinon, 53 Cenas, Teman, Mibsar, 54 Magdiel, Iram; y rhain oedd penaethiaid Edom.