1 Wedi hyn bu farw Nahas brenin yr Ammoniaid, a daeth ei fab yn frenin yn ei le. 2 Dywedodd Dafydd, "Gwnaf garedigrwydd � Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad � mi." Felly anfonodd negeswyr i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid at Hanun i'w gysuro, 3 dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth Hanun, "A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r wlad a'i hysb�o a'i goresgyn y daeth ei weision atat?" 4 Yna cymerodd Hanun weision Dafydd a'u heillio, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon hwy ymaith. 5 Pan ddywedwyd wrth Ddafydd am y dynion, fe anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr arnynt, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio � dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu. 6 Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd Hanun a'r Ammoniaid fil o dalentau arian i gyflogi cerbydau a marchogion o Mesopotamia, Syria-maacha a Soba. 7 Cyflogasant ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, yn ogystal � brenin Maacha a'i fyddin, a daethant i wersyllu o flaen Medeba. Ymgasglodd yr Ammoniaid hefyd o'u dinasoedd a dod allan i ryfel. 8 Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr. 9 Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, ac yr oedd y brenhinoedd, a oedd wedi dod, ar eu pennau eu hunain mewn tir agored. 10 Pan welodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu �l, dewisodd wu375?r dethol o fyddin Israel, a'u trefnu mewn rhengoedd i wynebu'r Syriaid. 11 Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a safasant yn rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid. 12 A dywedodd, "Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ac os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di. 13 Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg." 14 Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen. 15 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai ei frawd, a mynd i'r ddinas. Yna dychwelodd Joab i Jerwsalem. 16 Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, anfonasant negeswyr i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, gyda Sobach, pencapten byddin Hadadeser, yn eu harwain. 17 Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod atynt a sefyll yn rhengoedd yn eu herbyn. Trefnodd rengoedd yn erbyn y Syriaid, a brwydrasant hwythau yn ei erbyn. 18 Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith mil o wu375?r cerbyd a deugain mil o wu375?r traed, a hefyd Sobach y pencapten. 19 Pan welodd gweision Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch � Dafydd a phlygu i'w awdurdod. Wedi hyn yr oedd y Syriaid yn anfodlon rhoi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.