1 Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles; 2 y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; 3 y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla. 4 Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis. 5 Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar. 6 Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet, 7 Noga, Neffeg, Jaffia, 8 Elisama, Eliada, Eliffelet, naw. 9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer. 10 Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau; 11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau; 12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau; 13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau; 14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau. 15 Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum. 16 Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia. 17 Meibion Jechoneia'r carcharor: Salathiel, 18 Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, Nedabeia. 19 Meibion Pedaia: Sorobabel a Simei. Meibion Sorobabel: Mesulam a Hananeia; Selomith oedd eu chwaer hwy, 20 ac yna Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, Jusab-hesed, pump. 21 Meibion Hananeia: Pelatia a Jesaia. Meibion Reffaia: Arnan, Obadeia, Sechaneia. 22 Mab Sechaneia: Semaia. Meibion Semaia: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, Saffat, chwech. 23 Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, Asricam, tri. 24 Meibion Elioenai: Hodaia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Dalaia, Anani, saith.