Welsh

1 Chronicles

5

1 Dyma feibion Rueben, cyntafanedig Israel. (Ef yn wir oedd y cyntafanedig, ond am iddo halogi gwely ei dad rhoddwyd ei enedigaeth-fraint i feibion Joseff, fab Israel, 2 ac felly ni restrir yr achau yn �l yr enedigaeth-fraint. Er bod Jwda wedi rhagori ar ei frodyr, ac arweinydd wedi tarddu ohono, Joseff a gafodd yr enedigaeth-fraint.) 3 Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Enoch, Palu, Hesron, Carmi. 4 Meibion Joel: Semaia ei fab, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau, 5 Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau, 6 Beera ei fab yntau a gaethgludodd Tiglath-pileser brenin Asyria; ef oedd pennaeth y Reubeniaid. 7 Dyma'i frodyr yn �l eu teuluoedd ac yn �l achau eu cenedlaethau: Jeiel y pennaeth, Sechareia, Bela fab Asas, fab Sema, fab Joel. 8 Bu'r rhain yn byw yn Aroer a chyn belled � Nebo a Baal-meon. 9 Tua'r dwyrain yr oedd eu tir yn cyrraedd at ymylon yr anialwch sy'n ymestyn o afon Ewffrates, oherwydd yr oedd eu hanifeiliaid wedi cynyddu yng ngwlad Gilead. 10 Yn ystod teyrnasiad Saul, aethant i ryfel yn erbyn yr Hagariaid a'u trechu, a byw yn eu pebyll trwy holl ddwyrain Gilead. 11 Dyma feibion Gad oedd yn byw nesaf atynt yng ngwlad Basan hyd at Salcha: Joel y pennaeth, 12 Saffam yr ail, Jaanai, Saffat. 13 Eu brodyr hwy o du375? eu hynafiaid: Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, S�a, Heber, saith. 14 Meibion Abihail: Ben-huri, Ben-jaroa, Ben-gilead, Ben-michael, Ben-jesisai, Ben-jahdo, Ben-bus. 15 Ahi fab Abdiel, fab Guni, oedd y penteulu. 16 Yr oeddent hwy yn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Basan, a thrwy holl gytir Saron o un terfyn i'r llall. 17 Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn �l eu hachau yn nyddiau Jotham brenin Jwda a Jeroboam brenin Israel. 18 Ymysg meibion Reuben a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse yr oedd pedair mil a deugain, saith gant a thrigain o wu375?r cryfion yn cario tarian a chleddyf ac yn tynnu bwa; yr oeddent wedi dysgu ymladd, ac yn barod i fynd allan i ryfel. 19 Buont yn ymladd yn erbyn yr Hagariaid, Jetur, Neffis, a Nodab. 20 Fe gawsant help yn eu herbyn, a gorchfygu'r Hagariaid a phawb oedd gyda hwy, oherwydd iddynt alw ar Dduw yn y frwydr ac iddo yntau wrando arnynt am eu bod yn ymddiried ynddo. 21 Cymerasant o'u hanifeiliaid yn ysbail: hanner can mil o'u camelod, hanner can mil a dau gant o ddefaid, dwy fil o asynnod, a hefyd can mil o bobl. 22 (Am mai rhyfel Duw oedd hwn, yr oedd llawer wedi marw o'u clwyfau.) A buont yn byw yno yn eu lle hyd gyfnod y gaethglud. 23 Yr oedd hanner llwyth Manasse yn byw yn y tir rhwng Basan, Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon, ac yr oedd llawer ohonynt. 24 Y rhain oedd eu pennau-teuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, Jadiel; gwu375?r blaenllaw ac enwog oedd y pennau-teuluoedd hyn. 25 Ond buont yn anffyddlon i Dduw eu hynafiaid, a phuteinio gyda duwiau pobl y wlad yr oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau. 26 Felly anogodd Duw Israel Pul, hynny yw Tiglath-pileser brenin Asyria, i fynd �'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse i gaethglud. Aeth yntau � hwy i Hala, Habor, Hara ac afon Gosan, ac yno y maent hyd heddiw.