1 Ynglu375?n �'r casgliad i'r saint, gweithredwch chwithau hefyd yn �l y cyfarwyddiadau a roddais i eglwysi Galatia. 2 Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn �l ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau. 3 Wedi imi gyrraedd, mi anfonaf pwy bynnag sydd yn gymeradwy yn eich golwg chwi, i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem, gyda llythyrau i'w cyflwyno. 4 Neu, os bydd yn ymddangos yn iawn i minnau fynd hefyd, fe g�nt deithio gyda mi. 5 Mi ddof atoch chwi ar �l mynd trwy Facedonia, oherwydd trwy Facedonia yr wyf am deithio. 6 Ac efallai yr arhosaf gyda chwi am ysbaid, neu hyd yn oed dros y gaeaf, er mwyn i chwi fy hebrwng i ba le bynnag y byddaf yn mynd. 7 Oherwydd nid wyf am edrych amdanoch, y tro hwn, fel un yn taro heibio ar ei hynt. Rwy'n gobeithio cael aros gyda chwi am beth amser, os bydd yr Arglwydd yn caniat�u. 8 Ond rwyf am aros yn Effesus tan y Pentecost. 9 Oherwydd y mae drws llydan wedi ei agor imi, un addawol, er bod llawer o wrthwynebwyr. 10 Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd. 11 Am hynny, peidied neb �'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd � s�l eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr. 12 Ynglu375?n �'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle. 13 Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch. 14 Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad. 15 Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint. 16 Yr wyf yn erfyn arnoch, gyfeillion, i ymostwng i rai felly, a phawb sydd yn cydweithio ac yn llafurio gyda ni. 17 Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi. 18 Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly. 19 Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tu375?, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd. 20 Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd � chusan sanctaidd. 21 Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. 22 Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha. 23 Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi! 24 Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!