Welsh

1 Corinthians

3

1 Minnau, gyfeillion, ni ellais lefaru wrthych fel wrth rai ysbrydol, ond fel wrth rai cnawdol, fel babanod yng Nghrist. 2 Llaeth a roddais i chwi'n ymborth, ac nid bwyd solet, oherwydd nid oeddech eto'n barod. Ac nid ydych yn barod yn awr chwaith, 3 oherwydd cnawdol ydych o hyd. Oherwydd, tra bo cenfigen a chynnen yn eich plith, onid cnawdol ydych, ac yn ymddwyn yn �l safonau dynol? 4 Pan yw un yn dweud, "Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul", ac un arall, "Minnau, i blaid Apolos", onid dynol ydych? 5 Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd. 6 Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant. 7 Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant. 8 Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei d�l ei hun, yn �l ei lafur ei hun. 9 Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi. 10 Yn �l y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni. 11 Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno. 12 Os bydd i neb adeiladu ar y sylfaen ag aur, arian, a meini gwerthfawr, neu � choed, gwair, a gwellt, 13 daw gwaith pob un i'r amlwg, oherwydd y Dydd a'i dengys. Canys � th�n y datguddir y Dydd hwnnw, a bydd y t�n yn profi ansawdd gwaith pob un. 14 Os bydd y gwaith a adeiladodd rhywun ar y sylfaen yn aros, caiff d�l. 15 Os llosgir gwaith rhywun, caiff ddwyn y golled, ond fe achubir yr adeiladydd ei hun, ond dim ond megis trwy d�n. 16 Oni wyddoch mai teml Duw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? 17 Os bydd rhywun yn dinistrio teml Duw, bydd Duw'n ei ddinistrio yntau, oherwydd y mae teml Duw yn sanctaidd, a chwi yw'r deml honno. 18 Peidied neb �'i dwyllo'i hunan; os oes rhywun yn eich plith yn tybio ei fod yn ddoeth yn �l safonau'r oes hon, bydded ff�l, er mwyn dod yn ddoeth. 19 Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig: "Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra", 20 ac eto: "Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion, mai ofer ydynt." 21 Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi � 22 Paul, Apolos, Ceffas, y byd, bywyd, angau, y presennol, y dyfodol � pob peth yn eiddo i chwi, 23 a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.