1 Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi � chwestiynau caled. 2 Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn � camelod yn cludo peraroglau a st�r fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl, 3 ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi. 4 A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tu375? a adeiladodd, 5 ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd. 6 Addefodd wrth y brenin, "Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb. 7 Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld �'m llygaid fy hun � ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais. 8 Gwyn fyd dy wu375?r, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb. 9 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar orseddfainc Israel. Am i'r ARGLWYDD garu Israel am byth, y mae wedi dy roi di'n frenin, i weinyddu barn a chyfiawnder." 10 Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni chafwyd byth wedyn gymaint o beraroglau ag a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon. 11 Byddai llynges Hiram yn dod ag aur o Offir; byddai hefyd yn cludo o Offir lawer iawn o goed almug a gemau. 12 Gwnaeth y brenin fracedau i du375?'r ARGLWYDD ac i du375?'r brenin o'r coed almug, a hefyd delynau a nablau i'r cantorion. Ni ddaeth ac ni welwyd cystal coed almug hyd heddiw. 13 Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwen-ychodd, yn ychwaneg at yr hyn a roddodd iddi o'i haelioni brenhinol. Yna troes hi a'i gosgordd yn �l i'w gwlad. 14 Yr oedd pwysau'r aur a dd�i i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau, 15 heblaw yr hyn a g�i gan y march-nadwyr ac o enillion masnachwyr, ac oddi wrth holl frenhinoedd Arabia a'r rheolwyr talaith. 16 Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chant o siclau aur ym mhob tarian. 17 Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un; a rhoddodd y brenin hwy yn Nhu375? Coedwig Lebanon. 18 Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro �'r aur coethaf. 19 Yr oedd chwe gris i'r orseddfainc, pen ych ar gefn yr orseddfainc, dwy fraich o boptu i'r sedd, a dau lew yn sefyll wrth y breichiau. 20 Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris. 21 Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas. Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tu375? Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon. 22 Yr oedd gan y brenin ar y m�r longau Tarsis gyda llynges Hiram, ac unwaith bob tair blynedd fe dd�i llongau Tarsis �'u llwyth o aur, arian, ifori, epaod a pheunod. 23 Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb. 24 Ac yr oedd y byd i gyd yn ymweld � Solomon i glywed y ddoethineb a roddodd Duw yn ei galon. 25 Bob blwyddyn d�i rhai �'u rhoddion � llestri arian ac aur, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod. 26 Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem. 27 Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem � cherrig, a chedrwydd mor gyffredin � sycamorwydd y Seffela. 28 o'r Aifft a Cu373?e y d�i ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cu373?e am bris penodedig. 29 Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.