1 Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, "Cyn wired � bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn �l fy ngair i." 2 Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato: 3 "Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen. 4 Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno." 5 Aeth yntau a gwneud yn �l gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen. 6 Bore a hwyr d�i cigfrain � bara a chig iddo, ac yfai o'r nant. 7 Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad, 8 a daeth gair yr ARGLWYDD ato: 9 "Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi." 10 Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, "Estyn imi gwpanaid bach o ddu373?r, imi gael yfed." 11 Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei h�l, "A thyrd � thamaid o fara imi yn dy law." 12 Ond meddai hi, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y st�n; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi." 13 Dywedodd Elias wrthi, "Paid ag ofni; dos a gwna fel y dywedaist, ond gwna ohono yn gyntaf deisen fach i mi, a thyrd � hi ataf, a pharatoi i ti dy hun a'th fab wedyn. 14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: 'Nid �'r celwrn blawd yn wag na'r st�n olew yn sych hyd y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi glaw ar wyneb y tir.'" 15 Gwnaeth hithau yn �l gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser. 16 Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r st�n olew yn sych, yn �l gair yr ARGLWYDD drwy Elias. 17 Ymhen ysbaid clafychodd mab y wraig oedd biau'r tu375?; aeth yn ddifrifol wael, fel nad oedd anadl ar �l ynddo. 18 A dywedodd hi wrth Elias, "Beth sydd gennyt yn f'erbyn, u373?r Duw? Ai dod ataf a wnaethost i dynnu sylw at fy nghamwedd, a lladd fy mab?" 19 Meddai yntau wrthi, "Rho dy fab i mi." Cymerodd ef o'i mynwes a'i gludo i'r llofft lle'r oedd yn byw, a'i osod i orwedd ar ei wely. 20 Galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, fy Nuw, a wyt yn dwyn drwg hyd yn oed ar y weddw y cefais lety ganddi, ac yn lladd ei mab?" 21 Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn �l iddo." 22 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn �l iddo, ac adfywiodd. 23 Cymerodd Elias y bachgen, a mynd ag ef i lawr o'r llofft i mewn i'r tu375? a'i roi i'w fam, a dweud, "Edrych, y mae dy fab yn fyw." 24 Dyw-edodd y wraig wrth Elias, "Gwn yn awr dy fod yn u373?r Duw, a bod gair yr ARGLWYDD yn wir yn dy enau."