Welsh

1 Kings

21

1 Ar �l hyn digwyddodd fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad yn Jesreel ar gwr palas Ahab brenin Samaria. 2 A dywedodd Ahab wrth Naboth, "Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tu375?; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian." 3 Dywedodd Naboth wrth Ahab, "Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag rhoi i ti etifeddiaeth fy hynafiaid." 4 Dychwelodd Ahab i'w du375? yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, "Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid." Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta. 5 Daeth ei wraig Jesebel ato a gofyn iddo, "Pam yr wyt yn ddi-hwyl dy ysbryd ac yn gwrthod bwyta?" 6 Atebodd yntau, "Dywedais wrth Naboth y Jesreeliad, 'Rho dy winllan i mi am arian; neu, os dewisi, rhof iti winllan yn ei lle.' Ac atebodd, 'Ni roddaf fy ngwinllan iti.'" 7 A dywedodd Jesebel wrtho, "Dangos yn awr mai ti yw'r brenin yn Israel. Cod, bwyta, cod dy galon, fe roddaf fi winllan Naboth y Jesreeliad iti." 8 Ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, a'u selio �'i s�l, a'u hanfon at yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas � Naboth. 9 Yn y llythyrau yr oedd wedi ysgrifennu, "Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth i fyny o flaen y bobl, 10 a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, 'Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.' Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain." 11 A gwnaed � Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt. 12 Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl, 13 a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, "Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin." Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio � cherrig nes iddo farw. 14 Yna anfonasant neges at Jesebel: "Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw." 15 Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi ei labyddio'n gelain, dywedodd wrth Ahab, "Cod, meddianna'r winllan y gwrthododd Naboth y Jesreeliad ei hildio iti am arian. Nid yw Naboth yn fyw; y mae wedi marw." 16 A phan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, aeth i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad i'w meddiannu. 17 Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud, 18 "Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu. 19 Dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?"' Dywed hefyd wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Lle y llyfodd y cu373?n waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau."'" 20 Dywedodd Ahab wrth Elias, "A ddaethost o hyd i mi, fy ngelyn?" Atebodd yntau, "Do; ac am dy fod wedi ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, 21 rwyf yn dwyn drwg arnat ti, ac yn dileu dy hiliogaeth; difodaf bob gwryw yn perthyn i Ahab yn Israel, caeth a rhydd. 22 Gwnaf dy du375? fel tu375? Jeroboam fab Nebat a thu375? Baasa fab Aheia, oherwydd y dicter a achosaist wrth beri i Israel bechu. 23 Ac am Jesebel, fe ddywed yr ARGLWYDD, 'Y cu373?n fydd yn bwyta Jesebel wrth fur Jesreel.' 24 Bydd y cu373?n yn bwyta pob aelod o deulu Ahab a fydd farw yn y dref, ac adar rheibus yn bwyta pob un a fydd farw allan yn y wlad." 25 Eto ni bu neb cynddrwg ag Ahab mewn ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, am fod Jesebel ei wraig yn ei annog. 26 Gwnaeth yn ffiaidd iawn trwy addoli eilunod, yn hollol fel y gwn�i'r Amoriaid a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid. 27 Cyn gynted ag y clywodd Ahab eiriau Elias, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain ar ei gnawd, ac ymprydio, a chysgu ar sachliain, a cherdded yn araf. 28 Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad yn dweud, 29 "A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod �'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu."