1 Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei du375? ei hun cyn ei orffen yn llwyr. 2 Adeiladodd Du375? Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau. 3 To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes. 4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair. 5 Yr oedd fframiau sgw�r i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair. 6 Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben. 7 Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu � chedrwydd o'r llawr i'r distiau. 8 Ac yr oedd ei du375? annedd ei hun ar y cwrt arall yn nes i mewn na'r neuadd, ond o'r un gwneuthuriad. Gwnaeth Solomon hefyd du375? yr un fath �'r neuadd hon i'w briod, merch Pharo. 9 Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tu375?'r ARGLWYDD, hyd y cwrt mawr. 10 Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd; 11 ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd. 12 Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tu375?'r ARGLWYDD hyd borth y tu375?. 13 Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram, 14 mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith. 15 Bwriodd ddwy golofn bres, deunaw cufydd o uchder, gyda chylchlin o ddeuddeg cufydd yr un; yr oeddent yn wag o'r tu mewn, a'r deunydd yn bedair modfedd o drwch. 16 Gwnaeth ddau gnap o bres tawdd i'w gosod ar ben y colofnau, y naill a'r llall yn bum cufydd o uchder. 17 Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau. 18 Gwnaeth bomgranadau yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall. 19 Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd. 20 Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer �'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau gnap. 21 Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas. 22 Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau. 23 Yna fe wnaeth y m�r o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch. 24 O amgylch y m�r, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain, yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono. 25 Safai'r m�r ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn. 26 Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau. 27 Gwnaeth hefyd ddeg o drol�au pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder. 28 Yng ngwneuthuriad y trol�au yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid. 29 Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen. 30 Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un. 31 Yr oedd ei genau oddi mewn i gorongylch, yn gufydd o uchder, a'r genau yn gylch cufydd a hanner, fel gwneuthuriad soced. Yr oedd cerfiadau o gwmpas y genau, a'r panelau yn sgw�r, nid yn grwn. 32 Yr oedd y pedair olwyn o dan y panelau, a phlatiau echel yr olwynion yn y ffr�m; cufydd a hanner oedd uchder pob olwyn. 33 Yr oedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwyn cerbyd, a'u hechelau a'u camegau a'u ffyn a'u bothau i gyd yn waith tawdd. 34 Ac yr oedd pedair ysgwydd ym mhedair congl pob troli, a'r ysgwyddau yn un darn �'r troli. 35 Ac ar ben y troli yr oedd cylch crwn hanner cufydd o uchder, a'r platiau echel a'r panelau yn un darn � hi. 36 Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un. 37 Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un. 38 Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli, 39 pum troli ar ochr dde y tu375?, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y m�r ar ochr dde-ddwyrain y tu375?. 40 Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD: 41 y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; 42 y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli; 43 y deg noe ar y trol�au; 44 y m�r a'r deuddeg ych dano; 45 y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD o bres gloyw. 46 Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen. 47 Peidiodd Solomon � phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres. 48 A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i du375?'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod; 49 y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur; 50 y ffiolau, y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau hefyd o aur pur; a'r socedau aur i'r dorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf ac i'r dorau o fewn y c�r. 51 Wedi i'r Brenin Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhu375?'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r offer, a'u gosod yn nhrysordai tu375?'r ARGLWYDD.