1 Yr oedd gu373?r o Ramathaim yn ucheldir Effraim, un o linach Suff, o'r enw Elcana fab Jeroham, fab Elihu, fab Tochu, fab Suff, Effratead. 2 Yr oedd ganddo ddwy wraig, a'u henwau'n Hanna a Pheninna; yr oedd plant gan Peninna ond nid gan Hanna. 3 Bob blwyddyn byddai'r gu373?r hwn yn mynd i fyny o'i dref i addoli ac offrymu aberth i ARGLWYDD y Lluoedd yn Seilo, lle'r oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. 4 Bob tro yr oedd Elcana'n offrymu, byddai'n rhannu darnau o'r offrwm i'w wraig Peninna ac i bob un o'i bechgyn a'i merched; 5 ond un darn a roddai i Hanna, er mai hi a garai, am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. 6 Byddai ei chyd-wraig yn ei phoenydio'n arw i'w chythruddo am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. 7 Dyma a ddigwyddai bob blwyddyn pan �i i fyny i du375?'r ARGLWYDD; byddai'n ei phoenydio a hithau'n wylo a gwrthod bwyta, 8 er bod ei gu373?r Elcana yn dweud wrthi, "Hanna, pam yr wyt ti'n wylo a gwrthod bwyta? Pam yr wyt yn torri dy galon? Onid wyf fi'n well i ti na deg o feibion?" 9 Ar �l iddynt fwyta ac yfed yn Seilo, cododd Hanna; ac yr oedd yr offeiriad Eli yn eistedd ar gadair wrth ddrws teml yr ARGLWYDD. 10 Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gwedd�odd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl. 11 Tyngodd adduned a dweud, "O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio �'m hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth." 12 Tra oedd hi'n parhau i wedd�o gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau. 13 Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed. 14 Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, "Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win." 15 Atebodd Hanna, "Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn. 16 Paid �'m hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghu373?yn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau." 17 Atebodd Eli, "Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo." 18 Dywedodd hithau, "Bydded imi gael ffafr yn dy olwg." Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist. 19 Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn �l adref i Rama. 20 Cafodd Elcana gyfathrach �'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: "Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano." 21 Aeth y gu373?r Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned. 22 Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gu373?r, "Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth." 23 Dywedodd ei gu373?r Elcana wrthi, "Gwna'r hyn sydd orau yn d'olwg; aros nes y byddi wedi ei ddiddyfnu, ond bydded i'r ARGLWYDD gyflawni d'addewid." Felly arhosodd y wraig gartref a magu ei phlentyn nes ei ddiddyfnu. 24 Wedi iddi ei ddiddyfnu, aeth ag ef i fyny gyda hi a chymryd ych teirblwydd ac effa o flawd a chostrel o win. Daeth ag ef yn fachgen ifanc i du375?'r ARGLWYDD yn Seilo. 25 Wedi iddynt ladd yr ych, daethant �'r llanc at Eli, 26 a dywedodd hi, "Henffych well, syr! Myfi yw'r wraig oedd yn sefyll yma yn d'ymyl yn gwedd�o ar yr ARGLWYDD. 27 Am y bachgen hwn yr oeddwn yn gwedd�o, a rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r hyn a ofynnais ganddo. 28 Yr wyf finnau'n ei fenthyg i'r ARGLWYDD am ei oes. Un wedi ei fenthyg i'r ARGLWYDD yw." Ymgrymasant yno o flaen yr ARGLWYDD.