Welsh

1 Thessalonians

5

1 Ynglu375?n �'r amseroedd a'r prydiau, gyfeillion, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch. 2 Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd. 3 Pan fydd pobl yn dweud, "Dyma dangnefedd a diogelwch", dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt. 4 Ond nid ydych chwi, gyfeillion, mewn tywyllwch, i'r Dydd eich goddiweddyd fel lleidr; 5 pobl y goleuni, pobl y dydd, ydych chwi oll. Nid ydym yn perthyn i'r nos nac i'r tywyllwch. 6 Am hynny, rhaid inni beidio � chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr. 7 Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi. 8 Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm. 9 Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10 yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, prun bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn. 11 Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd � fel, yn wir, yr ydych yn gwneud. 12 Yr ydym yn gofyn ichwi, gyfeillion, barchu'r rhai sydd yn llafurio yn eich plith, yn arweinwyr arnoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori, 13 a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain. 14 Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb. 15 Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb. 16 Llawenhewch bob amser. 17 Gwedd�wch yn ddi-baid. 18 Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. 19 Peidiwch � diffodd yr Ysbryd; 20 peidiwch � dirmygu proffwyd-oliaethau. 21 Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. 22 Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni. 23 Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist! 24 Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn. 25 Gyfeillion, gwedd�wch drosom ninnau. 26 Cyfarchwch y cyfeillion i gyd � chusan sanctaidd. 27 Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa. 28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!