Welsh

1 Timothy

2

1 Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gwedd�au, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb, 2 dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster. 3 Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr, 4 sy'n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd. 5 Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn. 6 Fe'i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb, yn dystiolaeth yn yr amser priodol i fwriad Duw. 7 Ar fy ngwir, heb ddim anwiredd, dyma'r neges y penodwyd fi i dystio iddi fel pregethwr ac apostol, yn athro i'r Cenhedloedd yn y ffydd ac yn y gwirionedd. 8 Y mae'n ddymuniad gennyf, felly, fod y gwu375?r ym mhob cynulleidfa yn gwedd�o, gan ddyrchafu eu dwylo mewn sancteiddrwydd, heb na dicter na dadl; 9 a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid � phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud, 10 ond � gweithredoedd da, fel sy'n gweddu i wragedd sy'n honni bod yn dduwiol. 11 Rhaid i wragedd gymryd eu dysgu yn dawel gan lwyr ymostwng. 12 Ac nid wyf yn caniat�u i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwu375?r; eu lle hwy yw bod yn dawel. 13 Oherwydd Adda oedd y cyntaf i gael ei greu, ac wedyn Efa. 14 Ac nid Adda a dwyllwyd; y wraig oedd yr un a dwyllwyd, a chwympo drwy hynny i drosedd. 15 Ond caiff ei hachub drwy ddwyn plant � a bwrw y bydd gwragedd yn parhau mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd, ynghyd � diweirdeb.