1 Daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded, 2 ac fe aeth allan i gyfarfod Asa, a dweud wrtho, "O Asa, a holl Jwda a Benjamin, gwrandewch arnaf fi. Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau. 3 Am amser maith bu Israel heb y gwir Dduw, heb offeiriad i'w dysgu a heb gyfraith. 4 Yn eu trybini dychwelsant at ARGLWYDD Dduw Israel, a'i geisio, ac amlygodd yntau ei hun iddynt. 5 Yn y cyfnod hwnnw nid oedd heddwch i neb yn ei fywyd beunyddiol, am fod trigolion y gwledydd mewn ymrafael parhaus; 6 dinistrid cenedl gan genedl, a dinas gan ddinas, am fod Duw yn eu poeni � phob aflwydd. 7 Ond byddwch chwi'n wrol! Peidiwch � llaesu dwylo, oherwydd fe gewch wobr am eich gwaith." 8 Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac ad-newyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD. 9 Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef. 10 Daethant ynghyd i Jerwsalem yn y trydydd mis o'r bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa. 11 Y diwrnod hwnnw aberthasant i'r ARGLWYDD saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid o'r anrhaith a ddygasant. 12 Gwnaethant gyfamod i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid �'u holl galon ac �'u holl enaid. 13 Yr oedd pwy bynnag a wrthodai geisio ARGLWYDD Dduw Israel i'w roi i farwolaeth, boed fach neu fawr, gu373?r neu wraig. 14 Tyngasant i'r ARGLWYDD � llais uchel a bloedd, a thrwmpedau ac utgyrn. 15 Gorfoleddodd holl Jwda o achos y llw, am iddynt ei dyngu �'u holl galon; ceisiasant yr ARGLWYDD o'u gwirfodd, a datguddiodd yntau ei hun iddynt. Felly rhoes yr ARGLWYDD lonydd iddynt oddi amgylch. 16 Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron. 17 Ni symudwyd yr uchelfeydd o Israel; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir ar hyd ei oes. 18 Dygodd i du375?'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau. 19 Ac ni bu rhyfel hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.