1 Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn lle Asa, ac fe benderfynodd ef wrthsefyll Israel. 2 Rhoddodd filwyr ym mhob un o ddinasoedd caerog Jwda, a gosod garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn ninasoedd Effraim, sef y dinasoedd a gymerwyd gan ei dad Asa. 3 A bu'r ARGLWYDD gyda Jehosaffat am iddo ddilyn llwybrau cynnar ei dad Dafydd a gwrthod ymofyn �'r Baalim, 4 a throi yn hytrach at Dduw ei hynafiaid a chadw ei orchmynion, a pheidio � dilyn esiampl Israel. 5 Felly, sicrhaodd yr ARGLWYDD y frenhiniaeth yn llaw Jehosaffat, ac fe roddodd holl Jwda anrhegion iddo, nes bod ganddo olud a chyfoeth mawr iawn. 6 Dilynodd yr ARGLWYDD yn ffyddlon, a hefyd fe dynnodd ymaith o Jwda yr uchelfeydd a'r delwau o Asera. 7 Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda. 8 Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram. 9 Aeth y rhain i ddysgu yn Jwda, ac yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD ganddynt; teithiasant trwy holl ddinasoedd Jwda gan hyfforddi'r bobl. 10 Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat. 11 Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid � diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod. 12 Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd st�r yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda. 13 Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem, 14 wedi eu rhestru yn �l eu tywythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid; 15 y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd; 16 yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid. 17 O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian; 18 yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel. 19 Dyma'r rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, ar wah�n i'r rhai a osododd ef yn y dinasoedd caerog trwy holl Jwda.