1 Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le. 2 Yr oedd gan Jehoram frodyr, meibion i Jehosaffat, sef Asareia, Jehiel, Sechareia, Asareia, Michael a Seffateia. Meibion i Jehosaffat brenin Jwda oeddent i gyd, 3 a rhoddodd eu tad iddynt lawer o anrhegion, arian ac aur a phethau gwerthfawr, yn ogystal � dinasoedd caerog yn Jwda; ond i Jehoram y rhoddodd y frenhiniaeth, am mai ef oedd y cyntafanedig. 4 Ar �l i Jehoram ymsefydlu ar deyrnas ei dad, lladdodd bob un o'i frodyr a rhai o dywysogion Israel �'r cleddyf. 5 Deuddeg ar hugain oed oedd Jehoram pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. 6 Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwn�i tu375? Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 7 Eto, oherwydd y cyfamod a wnaeth � Dafydd, ni fynnai'r ARGLWYDD ddifetha tu375? Dafydd, am iddo addo rhoi lamp iddo ef a'i feibion am byth. 8 Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain. 9 Croesodd Jehoram yno gyda'i gapteiniaid a'i holl gerbydau; cododd liw nos ac ymosod gyda'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu. 10 Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Yr un pryd gwrthryfelodd Libna yn ei erbyn, am iddo droi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. 11 Ef hefyd a adeiladodd uchelfeydd ym mynydd-dir Jwda, a gwneud i drigolion Jerwsalem buteinio, ac arwain Jwda ar gyfeiliorn. 12 Daeth llythyr at Jehoram oddi wrth y proffwyd Elias yn dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Dafydd dy dad: 'Ni ddilynaist ti lwybrau Jehosaffat dy dad ac Asa brenin Jwda, 13 ond dilynaist frenhinoedd Israel, a gwneud i Jwda a thrigolion Jerwsalem buteinio, fel y gwnaeth tu375? Ahab gydag Israel; yr wyt hefyd wedi lladd dy frodyr o du375? dy dad, dynion gwell na thi. 14 Am hyn, fe ddaw'r ARGLWYDD � phla mawr ar dy bobl, dy feibion, dy wragedd a'th holl olud. 15 Fe fyddi di dy hun yn dioddef o glefyd enbyd yn dy goluddion, clefyd fydd ymhen amser yn gwneud i'r coluddion ddisgyn allan.'" 16 Yna cyffr�dd yr ARGLWYDD y Philistiaid, a'r Arabiaid oedd yn byw yn ymyl yr Ethiopiaid, yn erbyn Jehoram. 17 Daethant i fyny yn erbyn Jwda ac ymosod arni, a chludo ymaith yr holl olud oedd yn nhu375?'r brenin, yn ogystal �'i feibion a'i wragedd; ni adawyd neb ond Jehoahas, ei fab ieuengaf, ar �l. 18 Ar �l hyn i gyd trawodd yr ARGLWYDD ef � chlefyd marwol yn ei goluddion. 19 Ac yng nghwrs amser, wedi i ddwy flynedd ddod i ben, disgynnodd ei goluddion allan o achos y clefyd, a bu farw mewn poenau enbyd. Ni wnaeth y bobl d�n er anrhydedd iddo, fel y gwnaethant i'w ragflaenwyr. 20 Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. Bu farw heb neb yn galaru amdano, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.