Welsh

2 Chronicles

31

1 Pan ddaeth hyn i ben, aeth yr holl Israeliaid oedd yn bresennol allan i ddinasoedd Jwda i ddryllio'r colofnau, torri'r prennau Asera, a distrywio'r uchelfeydd a'r allorau trwy holl Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse. Ar �l eu difa'n llwyr dychwelodd yr holl Israeliaid i'w dinasoedd, pob un i'w gartref ei hun. 2 Trefnodd Heseceia yr offeiriaid a'r Lefiaid yn ddosbarthiadau ar gyfer eu gwasanaeth; yr oedd pob offeiriad a Lefiad yn gyfrifol am y poethoffrwm a'r heddoffrymau, ac yr oeddent i weini a rhoi diolch a moliannu ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD. 3 Cyfrannodd y brenin o'i olud ei hun tuag at y poethoffrymau, sef at boethoffrymau'r bore a'r hwyr a phoethoffrymau'r Sabothau, y newydd-loerau a'r gwyliau penodedig, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD. 4 Gorchmynnodd i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem roi i'r offeiriaid a'r Lefiaid eu cyfran, er mwyn iddynt gadw cyfraith yr ARGLWYDD yn well. 5 Pan gyhoeddwyd hyn, daeth yr Israeliaid � llawer o flaenffrwyth u375?d, gwin, olew, m�l a holl gnwd y maes; daethant � degwm llawn o bopeth. 6 Daeth pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn ninasoedd Jwda � degwm o wartheg a defaid, ac o'r pethau cysegredig a gysegrwyd i'r ARGLWYDD eu Duw, a'u gosod yn bentyrrau. 7 Dechreusant godi'r pentyrrau yn y trydydd mis, a'u gorffen yn y seithfed mis. 8 Pan ddaeth Heseceia a'i swyddogion a gweld y pentyrrau, bendithiasant yr ARGLWYDD a'i bobl Israel. 9 Pan ofynnodd Heseceia i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglu375?n �'r pentyrrau, 10 dywedodd Asareia yr archoffeiriad o du375? Sadoc wrtho, "Er pan ddechreuodd y bobl ddod � chyfraniadau i du375?'r ARGLWYDD, bwytasom a chawsom ein digoni, ac y mae llawer yn weddill, oherwydd bendithiodd yr ARGLWYDD ei bobl; dyna pam y mae cymaint ar �l fel hyn." 11 Gorchmynnodd Heseceia baratoi ystordai yn nhu375?'r ARGLWYDD; gwnaethant felly, 12 a daeth y bobl �'r blaenffrwyth, y degwm a'r pethau cysegredig i mewn yn ffyddlon. Y pennaeth oedd Conaneia y Lefiad, a'i frawd Simei oedd y nesaf ato. 13 Yn �l gorchymyn y Brenin Heseceia ac Asareia pennaeth tu375? Dduw, yr oedd Conaneia a'i frawd Simei yn cael eu cynorthwyo gan oruchwylwyr, sef Jehiel, Ahaseia, Nahath, Asahel, Jerimoth, Josabad, Eliel, Ismach�a, Mahath a Benaia. 14 Core fab Imna y Lefiad, y porthor wrth borth y dwyrain, oedd yn gofalu am yr offrymau gwirfoddol i Dduw, ac yn dosbarthu'r cyfraniadau a wnaed i'r ARGLWYDD a'r offrymau mwyaf sanctaidd. 15 Yr oedd Eden, Miniamin, Jesua, Semaia, Amareia a Sechaneia yn ei gynorthwyo yn ninasoedd yr offeiriaid i rannu'n deg i'w brodyr, yn fach a mawr, fesul dosbarth. 16 Yn ychwanegol, rhoddwyd ar y rhestr bob gwryw tair oed a throsodd a oedd yn dod yn ei dro i du375?'r ARGLWYDD i wasanaethu trwy gadw dyletswyddau yn �l eu dosbarthiadau. 17 Rhoddwyd ar y rhestr hefyd yr offeiriaid, yn �l eu teuluoedd, a'r Lefiaid oedd yn ugain oed a throsodd, yn �l eu dyletswyddau a'u dosbarthiadau. 18 Rhoddwyd hwy ar y rhestr gyda'u holl blant, gwragedd, meibion a merched, y cwmni i gyd, am iddynt ymgysegru'n ffyddlon. 19 Ar gyfer meibion Aaron, yr offeiriaid, a oedd yn byw yng nghytir eu dinasoedd, penodwyd dynion ym mhob dinas i roi cyfraniadau i bob gwryw yn eu plith ac i bob un o'r Lefiaid oedd ar y rhestr. 20 Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr ARGLWYDD ei Dduw. 21 Pa beth bynnag a wn�i i geisio ei Dduw yng ngwasanaeth tu375? Dduw, yn �l gofynion y gyfraith a'r gorchmynion, fe'i gwn�i �'i holl galon, a llwyddo.