Welsh

2 Corinthians

10

1 Yr wyf fi, Paul, fy hun yn eich annog, ar sail addfwynder a hynawsedd Crist � myfi, y dywedir fy mod yn wylaidd wyneb yn wyneb � chwi ond yn hy arnoch pan fyddaf ymhell. 2 Pan fyddaf gyda chwi, yr wyf yn erfyn arnoch na fydd angen imi arfer yn eofn yr hyfdra yr wyf yn ystyried y gallaf feiddio ei arfer tuag at y rhai sy'n ein cyfrif ni'n rhai sy'n byw ar wastad y cnawd. 3 Oherwydd er ein bod yn byw yn y cnawd, nid ar wastad y cnawd yr ydym yn milwrio � 4 canys nid arfau gwan y cnawd yw arfau ein milwriaeth ni, ond rhai nerthol Duw sy'n dymchwel cestyll. 5 Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist. 6 Yr ydym yn barod i gosbi pob anufudd-dod unwaith y bydd eich ufudd-dod chwi yn gyflawn. 7 Wynebwch y ffeithiau amlwg. Pwy bynnag sy'n credu yn ei galon ei fod yn perthyn i Grist, fe ddylai ystyried hyn hefyd yn ei galon, ein bod ninnau yn perthyn i Grist gymaint ag yntau. 8 Hyd yn oed os wyf yn ymffrostio rywfaint yn ormod am ein hawdurdod � awdurdod a roddodd yr Arglwydd i ni er mwyn eich adeiladu, nid eich dymchwel � ni chaf fy nghywilyddio. 9 Ni chaf fy nangos, chwaith, fel un sy'n codi dychryn arnoch �'i lythyrau, fel y myn rhai. 10 "Mae ei lythyrau," meddant, "yn bwysfawr a grymus, ond pan fydd yn bresennol, dyn bach eiddil ydyw, a'i ymadrodd yn haeddu dirmyg." 11 Dealled y rhai sy'n siarad felly hyn: yr hyn ydym ar air mewn llythyrau pan ydym yn absennol, hynny'n union a fyddwn mewn gweithred pan fyddwn yn bresennol. 12 Oherwydd nid ydym yn beiddio cystadlu na'n cymharu ein hunain �'r rhai sydd yn eu canmol eu hunain. Pobl heb ddeall ydynt, yn eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac yn eu cymharu eu hunain � hwy eu hunain. 13 Ond ni fydd ein hymffrost ni y tu hwnt i'n mesur; fe'i cedwir o fewn mesur y terfyn a bennodd Duw i ni, sy'n cyrraedd hyd atoch chwi hefyd. 14 Oherwydd nid ydym yn mynd y tu hwnt i'n terfyn, fel y byddem pe na bai ein terfyn yn eich cynnwys chwi; ni oedd y cyntaf i ddod ag Efengyl Crist atoch chwi hefyd. 15 Nid ydym yn ymffrostio y tu hwnt i'n mesur, hynny yw, ar bwys llafur pobl eraill. Ond gobeithio yr ydym, fel y bydd eich ffydd chwi yn mynd ar gynnydd, y bydd ein gwaith yn eich plith yn helaethu'n ddirfawr, o fewn ein terfynau. 16 Ein bwriad yw pregethu'r Efengyl mewn mannau y tu hwnt i chwi, nid ymffrostio yn y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud o fewn terfynau rhywun arall. 17 Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. 18 Nid y sawl sydd yn ei ganmol ei hunan, ond y sawl y mae'r Arglwydd yn ei ganmol, sy'n gymeradwy.