1 Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y daeth Jehoas i'r orsedd a theyrnasodd ddeugain mlynedd yn Jerwsalem. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam. 2 Ar hyd ei oes gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr offeiriad Jehoiada wedi ei ddysgu. 3 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt. 4 Dywedodd Jehoas wrth yr offeiriaid, "Cymerwch yr holl arian cysegredig sy'n dod i du375?'r ARGLWYDD, sef arian treth pob un yn �l swm y trethiant ar gyfer ei deulu a hefyd yr holl arian sy'n dod i mewn yn wirfoddol ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD; 5 cymered yr offeiriaid hefyd o'r cyfraniadau a dderbyniant, ac atgyweirio pob agen ym muriau'r tu375?." 6 Eto erbyn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r Brenin Jehoas nid oedd yr offeiriaid wedi atgyweirio agennau'r tu375?; 7 a galwodd y Brenin Jehoas am yr archoffeiriad Jehoiada ac am yr offeiriaid, a dweud wrthynt, "Pam nad ydych wedi atgyweirio agennau'r tu375?? Yn awr, felly, nid ydych i dderbyn arian o'r cyfraniadau; y maent i'w rhoi at atgyweirio agennau'r tu375?." 8 Cytunodd yr offeiriaid i beidio � derbyn arian gan y bobl i atgyweirio agennau'r tu375?. 9 A chymerodd yr offeiriad Jehoiada gist, a gwneud twll yn ei chaead a'i gosod yn ymyl yr allor, ar y dde wrth fynd i mewn i du375?'r ARGLWYDD; ac yno y rhoddai'r offeiriaid oedd yn gwylio'r drws yr holl arian a ddygid i du375?'r ARGLWYDD. 10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, byddai ysgrifennydd y brenin yn dod i fyny gyda'r archoffeiriad, yn eu rhoi mewn codau ac yna'n cyfrif yr arian a gafwyd yn nhu375?'r ARGLWYDD. 11 Ar �l eu harchwilio, rhoddid yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhu375?'r ARGLWYDD; hwy oedd yn talu i'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar du375?'r ARGLWYDD, 12 hefyd i'r seiri maen a'r naddwyr cerrig, a hwy oedd yn prynu coed a cherrig nadd i atgyweirio agennau tu375?'r ARGLWYDD, ac yn gwneud pob taliad ynglu375?n � diddosi'r tu375?. 13 Ni wnaed o'r arian a ddygwyd i du375?'r ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, nac unrhyw offer aur nac arian yn nhu375?'r ARGLWYDD; 14 ond yn hytrach fe'u rhoed yn d�l i'r gweithwyr am atgyweirio tu375?'r ARGLWYDD. 15 Ac nid oeddent yn hawlio cyfrif oddi wrth y rhai oedd yn gofalu am y gwaith ac yn cael yr arian i dalu i'r gweithwyr, am eu bod yn gweithredu'n onest. 16 Ni ddefnyddid ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD arian yr offrwm dros gamwedd a phechod; eiddo'r offeiriaid oeddent hwy. 17 Yr adeg honno aeth Hasael brenin Syria i ryfel yn erbyn Gath, a'i chipio, ac yna rhoi ei fryd ar ymosod ar Jerwsalem. 18 A chymerodd Jehoas brenin Jwda yr holl roddion a gysegrodd ei ragflaenwyr Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, a hefyd ei roddion ei hun a'r holl aur oedd ar gael yn nhrysorfa tu375?'r ARGLWYDD a'r palas, a'u hanfon at Hasael brenin Syria; troes yntau yn �l oddi wrth Jerwsalem. 19 Am weddill hanes Jehoas, a'r cwbl a gyflawnodd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 20 Gwnaeth ei weision gynllwyn yn erbyn Joas a'i ladd yn Beth-milo wrth riw Sila. 21 Ei weision Josabad fab Simeath a Jehosabad fab Somer a'i lladdodd. Bu farw a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.