Welsh

2 Samuel

10

1 Wedi hyn bu farw brenin yr Ammoniaid, a daeth Hanun ei fab yn frenin yn ei le. 2 Dywedodd Dafydd, "Gwnaf garedigrwydd � Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad � mi." Felly anfonodd neges ato gyda'i weision, i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid, 3 dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun, "A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r ddinas a'i hysb�o a'i goresgyn yr anfonodd Dafydd ei weision atat?" 4 Yna cymerodd Hanun weision Dafydd, ac eillio hanner barf pob un ohonynt, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon ymaith. 5 Pan ddywedwyd hyn wrth Ddafydd, anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr ar y dynion, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio � dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu. 6 Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd yr Ammoniaid a chyflogi ugain mil o wu375?r traed oddi wrth y Syriaid yn Beth-rehob a Soba, a hefyd mil o wu375?r oddi wrth frenin Maacha a deuddeng mil o wu375?r Tob. 7 Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr. 8 Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, gyda Syriaid o Soba a Rehob, a gwu375?r Tob a Maacha ar eu pennau eu hunain mewn tir agored. 9 Gwelodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu �l; felly dewisodd wu375?r dethol o fyddin Israel, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Syriaid. 10 Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid. 11 A dywedodd, "Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ond os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di. 12 Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg." 13 Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen. 14 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai, a mynd i'r ddinas. Gadawodd Joab ei gyrch yn erbyn yr Ammoniaid, a dychwelodd i Jerwsalem. 15 Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, daethant at ei gilydd eto, 16 ac anfonodd Hadadeser i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates hefyd. Daethant ynghyd i Helam, gyda Sobach, pencapten Hadadeser, yn eu harwain. 17 Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod i Helam. Trefnodd y Syriaid eu rhengoedd yn erbyn Dafydd a rhyfela yn ei erbyn. 18 Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith gant o wu375?r cerbyd a deugain mil o farchogion; 19 a hefyd fe drawodd Sobach, y pencapten, a bu yntau farw yno. Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd dan awdurdod Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch ag Israel a phlygu i'w hawdurdod. Wedi hyn ofnai'r Syriaid roi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.