Welsh

2 Samuel

15

1 Wedi hyn darparodd Absalom iddo'i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o'i flaen. 2 Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, "O ba dref yr wyt ti?" A byddai hwnnw'n ateb, "O un o lwythau Israel y mae dy was." 3 Yna byddai Absalom yn dweud, "Edrych, y mae dy achos yn un da a chryf, ond ni chei wrandawiad gan y brenin." 4 Ac ychwanegai Absalom, "O na fyddwn i yn cael fy ngosod yn farnwr dros y wlad! Yna byddai pob un � chu373?yn neu achos ganddo yn dod ataf fi, a byddwn i yn sicrhau cyfiawnder iddo." 5 Pan fyddai unrhyw un yn agos�u i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu. 6 Fel hyn y byddai Absalom yn ymddwyn tuag at bob Israeliad oedd yn dod at y brenin am ddedfryd, a denodd fryd pobl Israel. 7 Wedi pedair blynedd dywedodd Absalom wrth y brenin, "Gad imi fynd i Hebron a thalu'r adduned a wneuthum i'r ARGLWYDD; 8 oherwydd pan oeddwn yn byw yn Gesur yn Syria, gwnaeth dy was yr adduned hon, 'Os byth y daw'r ARGLWYDD � mi yn �l i Jerwsalem, fe addolaf yr ARGLWYDD.'" 9 Dywedodd y brenin, "Dos mewn heddwch!" Aeth yntau i ffwrdd i Hebron. 10 Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, "Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, 'Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.'" 11 Aeth deucant o wu375?r gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd. 12 Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau. 13 Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom, 14 a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, "Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas �'r cleddyf." 15 Dywedodd gweision y brenin wrtho, "Beth bynnag yw penderfyniad ein harglwydd frenin, y mae dy weision yn barod." 16 Yna ymadawodd y brenin, a'i deulu i gyd yn ei ganlyn, gan adael deg o'r gordderchwragedd i ofalu am y tu375?. 17 Wedi i'r brenin a'r holl fintai oedd yn ei ganlyn fynd allan, safodd ger y tu375? pellaf. 18 A safodd ei weision gerllaw iddo, tra oedd y Cerethiaid a'r Pelethiaid i gyd, a'r holl Gethiaid, sef y chwe chant o wu375?r oedd wedi dod o Gath i'w ganlyn, yn croesi gerbron y brenin. 19 Gofynnodd y brenin i Itai y Gethiad, "Pam yr wyt ti'n dod gyda ni? Dos yn �l ac aros gyda'r brenin newydd, oherwydd dieithryn wyt ti, ac alltud oddi cartref. 20 Ddoe y daethost ti; a wnaf fi iti grwydro heddiw gyda ni ar daith, a minnau heb wybod i ble'r wyf yn mynd? Dos yn �l, a dos �'th gymrodyr gyda thi; a bydded i'r ARGLWYDD ddangos iti drugaredd a ffyddlondeb." 21 Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr � f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd." 22 Yna dywedodd Dafydd wrth Itai, "Dos ymlaen, ynteu." Felly aeth Itai y Gethiad yn ei flaen, a'i holl bobl a'r holl blant oedd gydag ef. 23 Yr oedd su373?n wylo mawr trwy'r holl wlad pan oedd y bobl yn croesi. Safodd y brenin wrth nant Cidron nes i'r bobl i gyd fynd drosodd i gyfeiriad yr anialwch. 24 Yr oedd Sadoc yno hefyd, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef yn cario arch cyfamod Duw. Wedi iddynt osod arch Duw i lawr, bu Abiathar yn offrymu nes i'r bobl i gyd ymadael �'r ddinas. 25 Yna dywedodd y brenin wrth Sadoc, "Dos ag arch Duw yn �l i'r ddinas; os caf ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe ddaw � mi yn �l, a gadael imi ei gweld hi a'i chartref. 26 Ond os dywed fel hyn, 'Nid oes arnaf d'eisiau,' dyma fi; caiff wneud fel y myn � mi." 27 Hefyd dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad, "Edrych, fe elli di ac Abiathar ddychwelyd yn ddiogel i'r ddinas, a'ch dau fab gyda chwi, Ahimaas dy fab di a Jonathan, mab Abiathar. 28 Edrychwch, fe oedaf wrth rydau'r anialwch hyd nes y caf air oddi wrthych i'm hysbysu." 29 Felly dygodd Sadoc ac Abiathar arch Duw yn �l i Jerwsalem, ac aros yno. 30 Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo. 31 Dywedwyd wrth Ddafydd fod Ahitoffel ymysg y cynllwynwyr gydag Absalom, a gwedd�odd Dafydd, "O ARGLWYDD, tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb." 32 Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa, lle byddid yn addoli Duw, dyma Husai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod �'i fantell wedi ei rhwygo a phridd ar ei ben. 33 Meddai Dafydd wrtho, "Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf; 34 ond os ei di'n �l i'r ddinas a dweud wrth Absalom, 'Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr', yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof. 35 Bydd gennyt yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar gyda thi yno; yr wyt i ddweud wrthynt hwy bob gair a glywi o du375?'r brenin, 36 oherwydd y mae'r ddau fachgen, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar, yno gyda hwy, ac fe gewch anfon ataf trwyddynt hwy bob dim a glywch." 37 Daeth Husai, cyfaill Dafydd, i'r ddinas fel yr oedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.