1 Wedi hyn ymofynnodd Dafydd �'r ARGLWYDD a gofyn, "A af i fyny i un o drefi Jwda?" Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos." Gofynnodd Dafydd, "I ba un?" Atebodd yr ARGLWYDD, "I Hebron." 2 Felly fe aeth Dafydd i fyny yno, a'i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal, o Garmel; 3 hefyd fe aeth Dafydd �'r gwu375?r oedd ganddo, bob un �'i deulu, a thrigo yn nhref Hebron. 4 Yna daeth gwu375?r Jwda, ac eneinio Dafydd yno yn frenin ar du375? Jwda. Dywedwyd wrth Ddafydd mai gwu375?r Jabes-gilead oedd wedi claddu Saul, 5 ac anfonodd Dafydd negeswyr atynt a dweud wrthynt, "Bendith yr ARGLWYDD arnoch am ichwi wneud y gymwynas hon �'ch arglwydd Saul, a'i gladdu. 6 Ac yn awr bydded i'r ARGLWYDD ddangos caredigrwydd a ffyddlondeb atoch chwithau; a gwnaf finnau ddaioni i chwi, am ichwi wneud y peth hwn. 7 Byddwch gryf a dewr yn awr; y mae eich arglwydd Saul wedi marw, ond y mae tu375? Jwda wedi f'eneinio i yn frenin arnynt." 8 Yr oedd Abner fab Ner, cadfridog Saul, wedi cymryd Isboseth fab Saul ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim. 9 Gwnaeth ef yn frenin dros Gilead, pobl Aser, Jesreel, Effraim a Benjamin, a thros Israel gyfan. 10 Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tu375? Jwda yn dilyn Dafydd. 11 Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar du375? Jwda yn Hebron. 12 Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon. 13 Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall. 14 Ac meddai Abner wrth Joab, "Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau." Cytunodd Joab. 15 Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd. 16 Cydiodd pob un ym mhen ei wrthwynebydd a thrywanu ei gleddyf i'w ystlys, a syrthiodd y cwbl gyda'i gilydd; am hynny galwyd y lle hwnnw sydd yn Gibeon yn Helcath-hasurim. 17 Bu brwydr galed iawn y diwrnod hwnnw, a threchwyd Abner fab Ner a'r Israeliaid gan ddilynwyr Dafydd. 18 Yr oedd tri mab Serfia yno, Joab, Abisai ac Asahel; ac yr oedd Asahel cyn gyflymed ei draed ag unrhyw ewig ar y dd�l. 19 Rhedodd Asahel ar �l Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei �l. 20 Edrychodd Abner o'i �l a dywedodd, "Ai ti sydd yna, Asahel?" Atebodd yntau, "Ie." 21 Dywedodd Abner wrtho, "Tro draw i'r dde neu i'r chwith, a dal un o'r llanciau, a chymer ei arfau ef." Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei �l. 22 Dywedodd Abner eto wrth Asahel, "Tro draw oddi wrthyf; pam y mae'n rhaid imi dy daro i'r llawr? Sut y gallwn wynebu dy frawd Joab?" 23 Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol � b�n ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan. 24 Ond daliodd Joab ac Abisai i ymlid ar �l Abner, ac fel yr oedd yr haul yn machlud, daethant at fryn Amma sydd gyferbyn � Gia, i gyfeiriad anialwch Gibeon. 25 Ymgasglodd y Benjaminiaid at Abner, ac ymffurfio'n un fintai a sefyll ar gopa bryn Amma. 26 Yna gwaeddodd Abner ar Joab a dweud, "A yw'r cleddyf i ddifa am byth? Oni wyddost mai chwerw fydd diwedd hyn? Am ba hyd y gwrthodi ddweud wrth y milwyr am beidio ag erlid eu perthnasau?" 27 Atebodd Joab, "Cyn wired � bod Duw yn fyw, oni bai dy fod wedi siarad, ni fyddai'r milwyr wedi peidio ag ymlid eu perthnasau tan y bore." 28 Yna seiniodd Joab yr utgorn, a pheidiodd yr holl bobl ag ymlid yr Israeliaid, na brwydro rhagor. 29 Aeth Abner a'i ddynion ar draws yr Araba drwy'r nos, a chroesi'r Iorddonen, a dal ymlaen drwy gydol y bore nes dod i Mahanaim. 30 A phan ddaeth Joab yn ei �l o ddilyn Abner, fe gasglodd y bobl ynghyd, ac yr oedd pedwar ar bymtheg o ddilynwyr Dafydd yn eisiau, yn ogystal ag Asahel. 31 Yr oedd dilynwyr Dafydd wedi lladd o blith Benjamin dri chant a thrigain o filwyr Abner. Cymerwyd Asahel a'i gladdu ym medd ei dad ym Methlehem. 32 Yna cerddodd Joab a'i ddynion drwy'r nos, a chyrraedd Hebron fel yr oedd yn dyddio.