Welsh

2 Samuel

7

1 Wedi i'r brenin fynd i fyw i'w du375? ei hun, ac i'r ARGLWYDD roi llonyddwch iddo oddi wrth ei holl elynion o'i amgylch, 2 dywedodd y brenin wrth y proffwyd Nathan, "Edrych yn awr, yr wyf fi'n trigo mewn tu375? o gedrwydd, tra mae arch Duw yn aros mewn pabell." 3 Ac meddai Nathan wrth y brenin, "Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi." 4 Ond y noson honno daeth gair yr ARGLWYDD at Nathan, gan ddweud, 5 "Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: A wyt ti am adeiladu i mi du375? i breswylio ynddo? 6 Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tu375? o'r diwrnod y dygais yr Israeliaid allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o le i le mewn pabell a thabernacl. 7 Ple bynnag y b�m yn teithio gyda'r holl Israeliaid, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl Israel, a gofyn, "Pam na fyddech wedi adeiladu tu375? o gedrwydd i mi?"' 8 Felly, dywed fel hyn wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel. 9 Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear. 10 Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt, 11 pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; rhoddaf iti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn dy hysbysu mai ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tu375? i ti. 12 Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a thithau'n gorwedd gyda'th hynafiaid, codaf blentyn iti ar dy �l, un yn hanu ohonot, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn. 13 Ef fydd yn adeiladu tu375? i'm henw, a gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth. 14 Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi. Pan fydd yn troseddu, ceryddaf ef � gwialen fel y gwna rhywun, ac � chernodiau dynol, 15 ond ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth Saul pan symudais ef o'r ffordd o'th flaen. 16 Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen; erys dy orsedd yn gadarn hyd byth.'" 17 Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef. 18 Yna aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, "Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod � mi hyd yma? 19 Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Arglwydd DDUW, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglu375?n � theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a gwneud hyn yn drefn dragwyddol, O Arglwydd DDUW. 20 Beth yn rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt, a thithau yn adnabod dy was, O Arglwydd DDUW? 21 Oherwydd dy addewid, ac yn �l dy ewyllys, y gwnaethost yr holl fawredd hwn, a'i hysbysu i'th was. 22 Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wah�n i ti. 23 A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft. 24 Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy. 25 Yn awr, O ARGLWYDD Dduw, cadarnha hyd byth yr addewid a wnaethost ynglu375?n �'th was a'i deulu, a gwna fel y dywedaist. 26 Yna, fe fawrheir dy enw hyd byth, a dywedir, 'ARGLWYDD y Lluoedd sydd Dduw ar Israel'; a bydd tu375? dy was Dafydd yn sicr ger dy fron. 27 Am i ti, ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ddatgelu hyn i'th was a dweud, 'Adeiladaf i ti du375?', fe fentrodd dy was wedd�o fel hyn arnat. 28 Yn awr, O Arglwydd DDUW, ti sydd Dduw; y mae d'eiriau di yn wir, ac fe addewaist y daioni hwn i'th was. 29 Felly'n awr, gw�l yn dda fendithio tu375? dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy u373?ydd; yn wir, yr wyt ti, O Arglwydd DDUW, wedi addo, a thrwy dy fendith di y bendithir tu375? dy was hyd byth."