1 Yng ngu373?ydd Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd i farnu'r byw a'r meirw, yr wyf yn dy rybuddio ar gyfrif ei ymddangosiad a'i deyrnas ef: 2 pregetha'r gair; bydd yn barod bob amser, boed yn gyfleus neu'n anghyfleus; argyhoedda; cerydda; calonoga; a hyn ag amynedd diball wrth hyfforddi. 3 Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau, 4 gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau. 5 Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth. 6 Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod. 7 Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd. 8 Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef. 9 Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan, 10 oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia. 11 Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth. 12 Anfonais Tychicus i Effesus. 13 Pan fyddi'n dod, tyrd �'r clogyn a adewais ar �l gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau. 14 Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe d�l yr Arglwydd iddo yn �l ei weithredoedd. 15 Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf. 16 Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw � chyfrif hyn yn eu herbyn. 17 Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew. 18 A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. 19 Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus. 20 Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus. 21 Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch. 22 Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!