1 Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn Gair Duw. 2 Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef, 3 a dweud, "Buost yn ymweld � dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta � hwy." 4 Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn. 5 "Yr oeddwn i," meddai, "yn nhref Jopa yn gwedd�o, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf. 6 Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar y awyr. 7 A chlywais lais yn dweud wrthyf, 'Cod, Pedr, lladd a bwyta.' 8 Ond dywedais, 'Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.' 9 Atebodd llais o'r nef eilwaith, 'Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti �'i alw'n halogedig.' 10 Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn �l i'r nef. 11 Ac yn union dyma dri dyn yn dod a sefyll wrth y tu375? lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea. 12 A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i du375?'r dyn hwnnw. 13 Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei du375? ac yn dweud, 'Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr; 14 fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.' 15 Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Gl�n arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf. 16 Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, '� du373?r y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi �'r Ysbryd Gl�n.' 17 Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu rhwystro Duw?" 18 Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, "Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd." 19 Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled � Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r Gair wrth neb ond Iddewon yn unig. 20 Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu. 21 Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd. 22 Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia. 23 Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon; 24 achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Gl�n ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd. 25 Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia. 26 Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf. 27 Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia, 28 a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius. 29 Penderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt, gyfrannu, yn �l fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cyd-gredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea. 30 Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.