1 Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: "Os nad enwaedir arnoch yn �l defod Moses, ni ellir eich achub." 2 A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglu375?n �'r cwestiwn yma. 3 Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dr�edigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr. 4 Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy. 5 Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, "Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses." 6 Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma. 7 Ar �l llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: "Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu. 8 Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Gl�n yr un fath ag i ninnau; 9 ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd. 10 Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn? 11 Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd." 12 Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy. 13 Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, "Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi. 14 Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw. 15 Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno � hyn, fel y mae'n ysgrifenedig: 16 '"Ar �l hyn dychwelaf, ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd, ailadeiladaf ei hadfeilion, a'i hatgyweirio, 17 fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill, a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt," medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn 18 yn hysbys erioed.' 19 Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw, 20 ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed. 21 Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth." 22 Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd �'r holl eglwys, ddewis gwu375?r o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwu375?r blaenllaw ymhlith y credinwyr. 23 Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: "Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion. 24 Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu �'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn, 25 yr ydym wedi penderfynu'n unfryd ddewis gwu375?r a'u hanfon atoch gyda'n cyfeillion annwyl, Barnabas a Paul, 26 dynion sydd wedi cyflwyno eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. 27 Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar. 28 Penderfynwyd gan yr Ysbryd Gl�n a chennym ninnau beidio � gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn: 29 ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel." 30 Anfonwyd hwy, felly, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr. 31 Wedi ei ddarllen, yr oeddent yn llawen ar gyfrif yr anogaeth yr oedd yn ei rhoi. 32 Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau. 33 Wedi iddynt dreulio peth amser fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd. 34 [{cf15i Ond penderfynodd Silas aros yno.}] 35 Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd � llawer eraill. 36 Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, "Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld �'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt." 37 Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy; 38 ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio � hwy. 39 Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus; 40 ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd. 41 A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.