Welsh

Acts

18

1 Wedi hynny fe ymadawodd ag Athen, a dod i Gorinth. 2 A daeth o hyd i Iddew o'r enw Acwila, brodor o Pontus, gu373?r oedd newydd ddod o'r Eidal gyda'i wraig, Priscila, o achos gorchymyn Clawdius i'r holl Iddewon ymadael � Rhufain. Aeth atynt, 3 ac am ei fod o'r un grefft, arhosodd gyda hwy, a gweithio; gwneuthurwyr pebyll oeddent wrth eu crefft. 4 Byddai'n ymresymu yn y synagog bob Saboth, a cheisio argyhoeddi Iddewon a Groegiaid. 5 Pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul ymroi yn llwyr i bregethu'r Gair, gan dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia. 6 Ond yr oeddent hwy'n dal i'w wrthwynebu a'i ddifenwi, ac felly fe ysgydwodd ei ddillad a dweud wrthynt, "Ar eich pen chwi y bo'ch gwaed! Nid oes bai arnaf fi; o hyn allan mi af at y Cenhedloedd." 7 Symudodd oddi yno ac aeth i du375? dyn o'r enw Titius Jwstus, un oedd yn addoli Duw; yr oedd ei du375? y drws nesaf i'r synagog. 8 Credodd Crispus, arweinydd y synagog, yn yr Arglwydd, ynghyd �'i holl deulu. Ac wrth glywed, credodd llawer o'r Corinthiaid a chael eu bedyddio. 9 Dywedodd yr Arglwydd wrth Paul un noson, trwy weledigaeth, "Paid ag ofni, ond dal ati i lefaru, a phaid � thewi; 10 oherwydd yr wyf fi gyda thi, ac ni fydd i neb ymosod arnat ti i wneud niwed iti, oblegid y mae gennyf lawer o bobl yn y ddinas hon." 11 Ac fe arhosodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu gair Duw yn eu plith. 12 Pan oedd Galio yn rhaglaw Achaia, cododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dod ag ef gerbron y llys barn, 13 gan ddweud, "Y mae hwn yn annog pobl i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith." 14 Pan oedd Paul ar agor ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, "Pe bai yn fater o drosedd neu gamwedd ysgeler, byddwn wrth reswm yn rhoi gwrandawiad i chwi, Iddewon; 15 ond gan mai dadleuon yw'r rhain ynghylch geiriau ac enwau a'ch Cyfraith arbennig chwi, cymerwch y cyfrifoldeb eich hunain. Nid oes arnaf fi eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn." 16 A gyrrodd hwy allan o'r llys. 17 Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngu373?ydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny. 18 Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio �'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno. 19 Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu �'r Iddewon. 20 A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd. 21 Ond wedi ffarwelio gan ddweud, "Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn", hwyliodd o Effesus. 22 Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia, 23 ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion. 24 Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gu373?r huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau. 25 Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai. 26 Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach. 27 A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu, 28 oherwydd yr oedd yn mynd ati'n egniol i wrthbrofi dadleuon yr Iddewon, gan ddangos ar goedd trwy'r Ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.