1 Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol. 2 Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, "Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael Gair Duw, i weini wrth fyrddau. 3 Dewiswch, gyfeillion, saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl. 4 Fe barhawn ni yn ddyfal yn y gwedd�o ac yng ngwasanaeth y Gair." 5 A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gu373?r llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Gl�n, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia. 6 Gosodasant y rhain gerbron yr apostolion, ac wedi gwedd�o rhoesant hwythau eu dwylo arnynt. 7 Yr oedd Gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd. 8 Yr oedd Steffan, yn llawn gras a nerth, yn gwneud rhyfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl. 9 Ond daeth rhai o'r synagog a elwid yn Synagog y Libertiniaid a'r Cyreniaid a'r Alexandriaid, a rhai o bobl Cilicia ac Asia, a dadlau � Steffan, 10 ond ni allent wrthsefyll y ddoethineb a'r Ysbryd yr oedd yn llefaru drwyddo. 11 Yna annog dynion a wnaethant i ddweud, "Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw." 12 A chynyrfasant y bobl a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, ac ymosod arno a'i gipio a dod ag ef gerbron y Sanhedrin, 13 a gosod gau�dystion i ddweud, "Y mae'r dyn yma byth a hefyd yn llefaru pethau yn erbyn y lle sanctaidd hwn a'r Gyfraith; 14 oherwydd clywsom ef yn dweud y bydd Iesu'r Nasaread yma yn distrywio'r lle hwn, ac yn newid y defodau a draddododd Moses i ni." 15 A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel wyneb angel.